Skip to main content
Cyfarwyddwr AD Coleg Gŵyr Abertawe yn ennill prif wobr genedlaethol

Cyfarwyddwr AD Coleg Gŵyr Abertawe yn ennill prif wobr genedlaethol

Roedd Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol Coleg Gŵyr Abertawe, Sarah King, wedi ennill teitl Cyfarwyddwr AD y Flwyddyn yng Ngwobrau AD Cymru 2018 mewn seremoni fawreddog yng Ngwesty’r Gyfnewidfa, Caerdydd ddydd Gwener.

Y seremoni wobrwyo – sy’n cydnabod ac yn dathlu llwyddiannau gweithwyr proffesiynol a chyflogwyr Adnoddau Dynol ledled Cymru – yw’r digwyddiad pwysicaf yn Rhwydwaith AD Cymru, grŵp proffesiynol blaengar sy’n rhwydweithio ac yn rhannu syniadau, a grëwyd ac a reolir gan y cwmni cyfreithiol Darwin Gray yng Nghaerdydd ac Acorn, prif arbenigwyr recriwtio Cymru. 

Cyrhaeddodd Coleg Gŵyr Abertawe y rownd derfynol mewn tri chategori – gan gynnwys Cyflogwr y Flwyddyn – am ei ymrwymiad a’i ymroddiad sefydliadol yn dilyn y tân ar Gampws Tycoch ym mis Hydref 2016.

Ar ôl ennill teitl Cyfarwyddwr AD y Flwyddyn – dim ond un o bump i gyrraedd y rownd derfynol ar gyfer y wobr – dywedodd Sarah: “Dwi wrth fy modd fy mod i wedi ennill y wobr hon. Mae’n anrhydedd. Dwi’n wirioneddol ffodus i weithio mewn lle mor wych. Mae ymrwymiad go iawn yng Ngholeg Gŵyr Abertawe i gydnabod staff ac i fuddsoddi yn eu llesiant. Dwi’n edrych ymlaen at barhau i ddatblygu strategaeth sy’n canolbwyntio ar yr agweddau allweddol hyn ar Adnoddau Dynol ac i gyflwyno mentrau newydd dros y deuddeg mis nesaf.”

Yn siarad am lwyddiant Sarah, dywedodd Pennaeth Coleg Gŵyr Abertawe, Mark Jones: “Dwi wrth fy modd gyda’r wobr hon ar gyfer Sarah ei hun ac i’r Coleg. Yn y cyfnod cymharol fyr mae Sarah wedi bod gyda ni, mae hi eisoes wedi cael effaith anferth ar draws y Coleg gyda’i hymagwedd gadarnhaol a rhagweithiol, yn ogystal â’i ffocws cryf ar lesiant staff. Mae’r wobr hon yn gydnabyddiaeth haeddiannol o’r ymdrech a’r ymrwymiad ‘na.”

I gael rhagor o wybodaeth am y gwobrau, ewch i www.waleshrawards.cymru