Skip to main content

Cyfleoedd gyrfaol ym myd ffilm a’r cyfryngau

Mae myfyrwyr y Cyfryngau Creadigol o Goleg Gŵyr Abertawe wedi treulio diwrnod gyda gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant i ddarganfod sut brofiad ydyw i weithio ym myd ffilm ac effeithiau gweledol.

Roedd y myfyrwyr wedi mynd i Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ar gyfer Diwrnod Gyrfaoedd Ffilm a’r Cyfryngau arbennig.

Ar ôl cyflwyniad gan Dr Paul Hazel, pennaeth Ysgol y Cyfryngau Digidol y brifysgol, roedd y myfyrwyr wedi cwrdd â’r tîm creadigol y tu ôl i Double Negative – a enillodd wobr BAFTA - sydd wedi gweithio ar ffilmiau fel The Hunger Games: Catching Fire, Transcendence, Godzilla ac Interstellar.

Ymhlith uchafbwyntiau eraill y diwrnod oedd anerchiadau gan gyn-fyfyrwyr amrywiol o PCDDS, a rannodd eu profiadau o raddio a gweithio yn y diwydiant ffilm a’r cyfryngau, a chyflwyniad gan y Swyddog Cyswllt Addysg Amanda Roberts a ddisgrifiodd sut beth oedd gweithio gyda thîm cynhyrchu Da Vinci’s Demons yn ogystal â chyfleoedd gyrfaol i fyfyrwyr.

“Roedd hwn yn gyfle gwych i’n myfyrwyr gael blas ar y cyrsiau ffilm a’r cyfryngau ym Mhrifysgol y Drindod Dewi Sant a chyfle rhyfeddol i ddysgu rhagor am y diwydiant gan bobl sy’n gweithio ynddo,” dywedodd Swyddog Menter y coleg Lucy Turtle. “Roedden nhw wedi mwynhau anerchiadau Paul ac Amanda yn fawr iawn. Cymeron nhw ran mewn amrywiaeth o sesiynau ymarferol ar agweddau ar y cyfryngau digidol fel animeiddio 3D, ffilmio a golygu sgrin werdd.”