Skip to main content
Cyfri’r dyddiau: canllaw rhiant i baratoi ar gyfer tymor yr arholiadau

Cyfri’r dyddiau: canllaw rhiant i baratoi ar gyfer tymor yr arholiadau

 

Yn fuan iawn, bydd cannoedd o bobl ifanc ar draws Abertawe yn mynd i'r coleg neu'r ysgol ar bigau drain wrth iddynt ddechrau eu harholiadau. P’un ai ydynt yn arholiadau TGAU neu Safon Uwch, mae’r amser wedi dod i ddechrau adolygu – ac mae’r cyfnod hwn yn gallu achosi llawer o straen a phryder i lawer. Ond wrth i fyfyrwyr ddechrau mapio amserlenni adolygu a pharatoi nodiadau astudio, efallai na fydd rhieni a theuluoedd mor ymwybodol o'r hyn y gallant ei wneud i baratoi ar gyfer tymor yr arholiadau. Yma i gynnig cyngor i rieni am bopeth sy’n gysylltiedig ag arholiadau yw Mark Jones, Pennaeth Coleg Gŵyr Abertawe.

Mae arholiadau yn un o gamau pwysig bywyd i’r holl fyfyrwyr wrth iddynt gyrraedd diwedd eu haddysg ffurfiol. P’un ai ydynt yn arholiadau TGAU neu Safon Uwch, mae pwysau sylweddol ar bobl ifanc ac mae’n hollbwysig bod y bobl sy’n agos atynt yn rhoi’r cymorth sydd ei angen arnynt i ffynnu o bersbectif academaidd yn ogystal â phersbectif llesiant.

Er mai'r cyngor ymarferol mwyaf fyddai annog eich plant i ddechrau adolygu’n gynnar a blaengynllunio, mae'n naturiol, mewn llawer o achosion, y bydd y cyngor hwn yn syrthio ar glustiau byddar. Os dyma'r senario rydych chi yn ei hwynebu, mae'n debyg bod gennych lawer o sesiynau astudio munud olaf, hwyr yn y nos o’ch blaen.

Os yw hyn yn wir, a bod eich plant wedi gadael rhywfaint o’r adolygu neu’r holl adolygu tan y funud olaf, mae'n bwysig peidio â’u cosbi am ymddygiad o'r fath, ond yn hytrach dylech fynd i'r afael â'r sefyllfa a rhoi’ch holl sylw ac egni i'w hannog i wneud y mwyaf o'r amser cyfyngedig sydd ar ôl. I wneud hyn, helpwch nhw i lunio amserlen adolygu, gan osod nodau dyddiol fel y gallant weld yr hyn sy'n gyraeddadwy ac yn realistig.

Er bod amser yn gyfyngedig, mae'n bwysig cofio na ddylai neb adolygu’n gadarn bob dydd a nos. Mae cymryd seibiau a mynd allan i fwynhau rhywfaint o ymarfer corff yn hanfodol er mwyn cadw ffocws.

Rydym yn clywed llawer am fanteision ymarfer corff ac mae rheswm da dros hyn - mae wedi'i brofi'n wyddonol bod ymarfer corff yn lleihau lefelau straen a phryder, a bydd y lefelau hyn yn sicr o fod yn uchel ar hyn o bryd. Gall taith gerdded pum munud helpu i ddeffro’r ymennydd ac ailgyfeirio ffocws. Mae’n werth cynnwys seibiau rheolaidd a gweithgareddau awyr agored yn yr amserlen adolygu i sicrhau eich bod chi a’ch plant yn osgoi blinder meddyliol.  

Mae ymarfer corff a seibiau adolygu rheolaidd yn bwysig, ac mae cwsg yr un mor bwysig. Dylech argymell eu bod yn rhoi'r gorau i edrych ar sgriniau awr cyn mynd i’r gwely er mwyn sicrhau eu bod yn gwneud y gorau o'u hamser segur a dadflino’n llwyr er mwyn medru cadw’r holl wybodaeth maen nhw wedi ei hadolygu.

Efallai na fydd eich rôl yn y broses adolygu yn un syml. Efallai y bydd eich plant yn gofyn am eich help a cheisio sicrwydd, neu, efallai y byddent yn dewis mynd i'r afael â hi ar eu pen eu hunain. Y naill ffordd neu'r llall, yn bendant mae’n syniad da cynnig eich cymorth a dangos eich bod am eu helpu ym mha bynnag ffordd y gallwch chi. Mae profi gwybodaeth yn un o'r ffyrdd gorau o gadw gwybodaeth, ac felly dylech awgrymu prawf dyddiol i'w helpu i ddangos yr wybodaeth maen nhw wedi ei dysgu o’r diwrnod adolygu hwnnw. Bydd y cymorth hwn yn rhoi her iddyn nhw o ran galw gwybodaeth benodol i gof ond bydd hefyd yn helpu i adnabod unrhyw fylchau yn eu gwybodaeth a'u cyfeirio at yr hyn y mae angen iddynt ei astudio ymhellach.

Neu, gallech gynnig amser iddynt addysgu'r hyn maen nhw wedi’i ddysgu yn ystod y dydd neu’r sesiwn adolygu – dyma ffordd wych o alw gwybodaeth i gof a rhoi pwnc a chyd-destun iddi. Mae esbonio rhywbeth yn fanwl, ac o bosib mewn amrywiaeth o ffyrdd i gael rhywun arall i ddeall y pwnc, yn helpu i atgyfnerthu'r pwnc ym meddwl yr athro/athrawes.

Mae'n hawdd mynd i banig pan fydd gwaith adolygu wedi cael ei adael tan y funud olaf ond gall hyn fod yn wrthgynhyrchiol i ganolbwyntio a chadw gwybodaeth. Mae'r demtasiwn i drosi gwerth blwyddyn o astudio i mewn i dudalennau o nodiadau manwl yn aml yn ymddangos fel yr ateb gorau ond gyda phwysau amser, efallai na fyddai hyn bob amser yn gwneud y defnydd gorau o amser. Anogwch nhw i ysgrifennu geiriau allweddol a fydd yn eu helpu i gofio’r pwnc neu dynnu diagramau sy'n dangos yr wybodaeth. Er bod ysgrifennu yn un o'r ffyrdd gorau o ddal gwybodaeth, mae'n bwysig nad yw'n troi'n ymarfer trawsgrifio llwyr.

Yn olaf, mae'n wir beth maen nhw'n ei ddweud; dyfal donc a dyr y garreg, felly gwnewch yn siŵr bod gennych gyflenwad da o bapurau ymarfer ac arholiadau prawf i'w defnyddio ar ddiwedd pob dydd, ac, yn ddelfrydol, wedi’u hamseru’n briodol fel eu bod yn gwybod beth i'w ddisgwyl ac yn ymgyfarwyddo â gweithio o dan gyfyngiadau amser.

Peidiwch â rhoi gormod o bwysau arnynt neu arnoch chi’ch hun yn ystod y cyfnod hwn. Mae'n gyfnod dirdynnol a bydd adegau o straen a phryder ond mae'n werth cofio y gall atgoffa cyson neu leisio'ch pryderon wneud i’r pryder barhau mewn gwirionedd. Treuliwch amser i greu awyrgylch hamddenol a chyfforddus gan osgoi pethau fydd yn tynnu’ch sylw oddi ar y gwaith, i sicrhau eich bod yn darparu'r lleoliad gorau posibl iddynt weithio'n galed.

Os dechreuwyd y gwaith adolygu ym mis Ionawr neu dim ond yr wythnos diwethaf, bydd pawb yng Ngholeg Gŵyr Abertawe yn croesi eu bysedd i chi a’ch teuluoedd ac rydym yn gobeithio y cewch chi’r canlyniadau rydych chi i gyd wedi gweithio mor galed i’w cael.