Skip to main content

Cyn-fyfyriwr yn dychwelyd i rannu profiadau teithio

Roedd cyn-fyfyriwr y Celfyddydau Perfformio o Goleg Gŵyr Abertawe wedi dychwelyd i gampws Gorseinon yn ddiweddar i roi cipolwg ysbrydoledig ar y diwydiant teledu a ffilm a’r cyfleoedd mae’n gallu eu cynnig i grwydro’r byd.

Mae Andrew Price, y pen busnes y tu ôl i Dryad Bushcraft, yn rhan o raglen Modelau Rôl Syniadau Mawr Llywodraeth Cymru, sy’n rhoi cyfle i bobl ifanc gwrdd â phobl leol lwyddiannus o amrywiaeth o ddiwydiannau.

Ers sefydlu ei gwmni ei hunan, mae Andrew wedi bod wrthi’n hyrwyddo addysg awyr agored a byw yn y gwyllt ledled y DU. Mae’n rhedeg cyrsiau i sefydliadau gan gynnwys Ymddiriedolaeth y Tywysog, Groundworks, Mind, Gwasanaeth Ieuenctid Abertawe, YMCA a nifer o ysgolion, colegau a phrifysgolion.

“Mae Andrew yn fodel rôl perffaith" dywedodd y Swyddog Menter Lucy Turtle, a drefnodd y digwyddiad. "Mae e wedi meithrin gyrfa amrywiol gan gynnwys gweithio fel hyfforddwr gweithgareddau awyr agored ac ymchwilydd rhaglenni dogfen teledu i’r BBC a chwmnïau eraill y cyfryngau yn Llundain a Chaerdydd cyn sefydlu Dryad. Yn ystod ei anerchiad gyda myfyrwyr Lefel 2 a 3 y Celfyddydau Perfformio, roedd Andrew wedi egluro sut i feddwl yn ‘entrepreneuraidd’ wrth weithio yn y diwydiant ac roedd e hefyd wedi pwysleisio agweddau addysgol a chreadigol ar y profiad awyr agored."

Wrth gymryd rhan mewn alldaith Raleigh International i Maleisia roedd Andrew wedi ymwneud â sawl prosiect gan gynnwys sefydlu Prosiect Fferm Coedwigaeth yn Sabah Borneo, gyda’r bwriad o ddangos dulliau ffermio cynaliadwy mewn ardaloedd lle roedd ‘torri a llosgi’ yn ffordd draddodiadol o reoli’r tir.

Roedd agweddau eraill ar yr alldaith hon yn cynnwys torri llwybrau yng Ngwarchodfa Bywyd Gwyllt Cwm Dannum a phrosiect dyfrhau yn Ucheldiroedd Cameron penrhyn Maleisia. Hwn oedd y cyntaf o nifer fawr o brofiadau a gafodd Andrew o fyw gyda ‘phobl hela a chasglu’ – yr Orang Asli yn yr achos hwn – a dysgodd am eu ffordd o fyw sy’n cyflym ddiflannu a’r technegau sy’n ei gwneud yn bosibl iddyn nhw fyw oddi ar y tir.