Skip to main content

Cynllun cysgodi yn arwain at brofiad gwaith i fyfyriwr

Diolch i gynllun Llywodraeth Cymru o’r enw Cysgodi Entrepreneuraidd, mae’r myfyriwr Kieren Palfrey o Goleg Gŵyr Abertawe wedi cymryd ei gamau cyntaf i yrfa mewn marchnata.

Mae Cysgodi Entrepreneuraidd yn rhoi cyfle i bobl ifanc weithio ochr yn ochr ag entrepreneur go iawn a chael profiad uniongyrchol o’r hyn sydd ynghlwm â rhedeg busnes.

Mae Kieren yn dilyn cwrs Diploma Estynedig Lefel 3 Y Cyfryngau Creadigol ar gampws Gorseinon. Dechreuodd feithrin diddordeb mewn entrepreneuriaeth ar ôl cymryd rhan yn y Gwobrau Menter Fyd-eang yn y coleg, lle roedd rhaid iddo weithio gyda myfyrwyr eraill i greu cynllun busnes proffidiol o fewn amserlen dynn.

Roedd hyn wedi arwain at swydd marchnata dros yr haf yn y siop deilwra a dillad ecsgliwsif Jones Designer Fashions yn y Mwmbwls.

“Roedd yn gyfle gwych i weithio ochr yn ochr ag entrepreneuriaid lleol profiadol,” dywedodd Swyddog Menter y coleg, Lucy Turtle. “Mae hyn wedi rhoi ciplowg i Kieren ar weithrediadau busnes bob dydd ac mae wedi cael profiad ymarferol gwerthfawr fydd yn gwella’i CV a’i geisiadau UCAS.”

Mae’r hyn a ddechreuodd fel cynllun cysgodi dros dro wedi arwain at swydd fwy sefydlog ac, ar ôl chwe mis, mae Kieren yn parhau i weithio’n rhan-amser i Jones fel ffotograffydd a threfnydd y cyfryngau cymdeithasol.

“Mae gweithio gyda Jones wedi rhoi cyfle i mi gael profiad o bethau na fyddai wedi bod yn bosib fel arall fel darparu siwtiau ar gyfer Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe,” dywedodd Kieren. “Dw i wedi dysgu llawer iawn o bethau newydd o ran beth mae gyrfa mewn marchnata yn ei olygu, y profiadau y gallwch chi eu cael wrth redeg eich busnes eich hunan a’r aberth sy’n cael ei wneud yn aml. Gwybodaeth a phrofiadau na chewch chi mewn ystafell ddosbarth.”

Mae Kieren yn gobeithio symud ymlaen i Goldsmiths, Prifysgol Llundain i astudio gradd BA Y Cyfryngau a Chyfathrebu.