Skip to main content

Cystadleuaeth peirianneg yn arwain at swydd i Stefano

Mae ennill cystadleuaeth peirianneg wedi talu ar ei ganfed i’r myfyriwr Stefano Amoruso o Goleg Gŵyr Abertawe ar ôl i un o’r beirniaid gynnig prentisiaeth iddo.

Yn ddiweddar enillodd Stefano rownd derfynol ranbarthol cystadleuaeth Electroneg Ddiwydiannol WorldSkills y DU ar gampws Tycoch a nawr bydd yn mynd ymlaen i gystadlu yn y Sioe Sgiliau yn yr NEC, Birmingham ym mis Tachwedd. Mae’n bosibl hefyd y caiff le yn rowndiau terfynol WorldSkills Rhyngwladol sydd ar y gorwel yn Abu Dhabi yn 2017.

Ond enillodd y wobr fwyaf am ei ymdrechion pan gynigiodd y beirniad David O’Keeffe, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Trojan Electronics, brentisiaeth 18 mis iddo fel gweithredwr peiriant SMT. Bydd yn dechrau’r brentisiaeth honno y mis hwn.

Mae Stefano, 18 oed, o St Thomas, Abertawe yn astudio ar gyfer Diploma Lefel 3 mewn Peirianneg. Dywedodd: “Dw i wrth fy modd fy mod i wedi cael cynnig prentisiaeth, rôn i’n hapus tu hwnt i ennill y cymal rhanbarthol ac o bosib i gynrychioli Cymru yng nghystadleuaeth WorldSkills Rhyngwladol. Ond i gael cynnig prentisiaeth hefyd – roedd yn ffantastig.”

Mae Stefano wedi bod yn fyfyriwr yng Ngholeg Gŵyr Abertawe am bedair blynedd, ar ôl cwblhau ei arholiadau TGAU a nifer o gymwysterau cysylltiedig â pheirianneg.

Yn ystod rownd derfynol ranbarthol WorldSkills y DU roedd wedi cael y dasg o adeiladu cwmpawd electronig, adeiladu cylched ar fwrdd bara a chwblhau arholiad ysgrifenedig.

Dywedodd Steve Williams, Arweinydd Cwricwlwm Technoleg Ddigidol yng Ngholeg Gŵyr Abertawe: “Mae Stefano yn fyfyriwr hynod o ddawnus ac felly dyw e ddim yn syndod i’w dîm addysgu ei fod wedi cael cynnig prentisiaeth gyda Trojan Electronics. Mae’r sgiliau a’r aeddfedrwydd mae Stefano wedi’u dangos drwy gydol y gystadleuaeth wedi cael eu nodi gennym i gyd, ac rydyn ni’n falch dros ben ei fod wedi cael cyfle i drosglwyddo’r sgiliau hynny o’r amgylchedd coleg i’r gweithle. Rydyn ni’n dymuno’n dda iddo.”

Sefydlwyd Trojan Electronics yn 2002 ac erbyn hyn grŵp gwasanaethau mwyaf Ewrop ydyw o ran gwaith atgyweirio ac ailwampio, e-fasnach aml-sianel a gwaith gweithgynhyrchu electronig is-gontract. Mae’n canolbwyntio ar adennill cymaint o asedau â phosibl, lleddfu gofynion tirlenwi cymaint â phosibl a lleihau’r costau y mae cwsmeriaid yn eu talu am y gwasanaethau o safon sydd eu hangen arnynt.

Dywedodd Mr O’Keeffe, oedd yn beirniadu cystadleuaeth WorldSkills y DU am y tro cyntaf: “Stefano oedd yr ymgeisydd gorau o bell ffordd. Roedd e wedi cwblhau’r prawf ymarferol ac yn amlwg roedd e wedi paratoi’n dda. Mae’n gweithio’n galed ac mae ganddo agwedd wych tuag at waith. Dyna pam penderfynes i gynnig swydd iddo fe.”

Mae Semta, y sefydliad dielw sy’n sicrhau sgiliau ar gyfer y dyfodol, yn trefnu ac yn rhedeg 13 cystadleuaeth peirianneg ar gyfer WorldSkills y DU.

Dywedodd y Prif Weithredwr Ann Watson: “Mae cystadlu yn WorldSkills yn ffordd wych i beirianwyr ifanc fagu hyder a dangos eu potensial i gyflogwyr presennol a chyflogwyr yn y dyfodol. Dw i wrth fy modd bod Stefano wedi cael gwaith o ganlyniad uniongyrchol i’r gystadleuaeth a dw i’n dymuno’n dda iddo yn ei yrfa ac yn rownd derfynol genedlaethol WorldSkills.”

Uchelgais Stefano yn y pen draw yw bod yn berchen ar ei fusnes ei hun. Dywedodd: “Hoffwn i ddiolch i Steve am fy enwebu ar gyfer y gystadleuaeth ac i Trojan am roi cyfle i mi.

“Beth sydd o ddiddordeb i mi ym maes peirianneg yw’r holl wybodaeth dechnegol a’r sgiliau ymarferol dw i’n eu dysgu. Mae’r brentisiaeth yn Trojan yn gyfle gwych i mi ddatblygu fy ngyrfa. Mae peirianneg yn sector mor fawr sy’n golygu bod ‘na lawer o gyfleoedd i gael gwaith a gyrfa hirdymor – dyna beth byddwn i’n dweud wrth bobl ifanc eraill.”

I gael rhagor o wybodaeth am Gystadlaethau Peirianneg WorldSkills y DU neu os oes gennych ddiddordeb mewn prentisiaeth ewch i www.semta.org.uk

Cysylltiadau Cyhoeddus: Robertson Media Ltd

Llun: Stefano (canol) gyda’i gyd-fyfyrwyr Technoleg Ddigidol.