Gweddnewidiad i bengwiniaid Gwledd y Gaeaf


Diweddarwyd 07/12/2016

Roedd tîm Gwasanaethau Diwylliannol Dinas a Sir Abertawe ar gampws Llwyn y Bryn wedi cysylltu â staff a myfyrwyr ar gampws Llwyn y Bryn yn ddiweddar gyda chais arbennig iawn – sef ailaddurno ac ailbeintio Pengwiniaid Gwledd y Gaeaf ar y Glannau ar gyfer llawr sglefrio’r plant. 

A dyma fyfyrwyr Lefel 2 Celf a Dylunio yn bwrw ati – gan gymryd sawl cyfrifoldeb yn ystod y prosiect gan gynnwys dylunio graffig, ysgrifennu blog, ffotograffiaeth, cadw llygad ar gostau/deunyddiau prisio, a gwaith trefnu cyffredinol ac iechyd a diogelwch. Roedd yr holl weithgareddau hyn yn ddelfrydol ar gyfer cymhwyster Dyfarniad y Celfyddydau sy’n rhedeg ochr yn ochr â Diploma Cyntaf Lefel 2 Celf.

“Mae hyn yn enghraifft wych o sut mae myfyrwyr celf yn gallu gweithio gyda busnesau lleol a byd diwydiant, i ddarparu gwasanaeth sy’n gweithio,” dywedodd Marilyn Jones. “Rydyn ni i gyd yn edrych ymlaen at weld y pengwiniaid gorffenedig yn sglefrio ar yr iâ!”

Mae nifer o’r pengwiniaid wedi cael eu noddi gan sefydliadau lleol megis McDonalds, Admiral, Pennant Homes, Limitless a Theatr y Grand.

Tags:
art