Skip to main content
Dyn yn cael ei gyfweld

Gweinidog yn siarad â myfyrwyr y Coleg yn dilyn cyhoeddiad LCA

Roedd yn bleser gan Goleg Gŵyr Abertawe groesawu Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles, i Gampws Tycoch ar 17 Ebrill.

Galwodd y Gweinidog heibio i siarad â myfyrwyr a staff, gan gynnwys y Pennaeth Mark Jones, yn dilyn y cyhoeddiad bod Cymru ar fin bod y wlad gyntaf yn y DU i gynyddu’r tâl Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA) i ddysgwyr.

O fis Ebrill 2023, bydd y LCA yn cynyddu o £30 yr wythnos i £40 ar gyfer myfyrwyr addysg bellach cymwys mewn chweched dosbarth neu goleg.