Gwell Swyddi a Gwell Dyfodol ar y gorwel i Abertawe


Diweddarwyd 03/10/2017

Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn lansio menter newydd sbon gyda’r nod o fanteisio i’r eithaf ar gyflogadwyedd a dilyniant yn y gwaith yn ardal Abertawe.

Bydd y rhaglen Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol yn gweithio ochr yn ochr â rhaglenni uwchsgilio presennol y coleg i helpu pobl ddi-waith i gael hyd i swydd, a helpu’r rhai sydd eisoes mewn cyflogaeth i gael gwell swyddi trwy gyngor a mentora wedi’u teilwra’n unigol.

Bydd Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol hefyd yn gweithio gyda chyflogwyr lleol i ehangu a chryfhau eu gweithluoedd, gan roi cymorth a chyngor personol iddynt ynghylch sut i recriwtio a chadw cyflogeion talentog.

Mae’r data mwyaf diweddar yn dangos bod gan Gymru y gyfradd diweithdra uchaf ar draws y DU, tra bod gan Ddwyrain Abertawe y gyfradd diweithdra uchaf ar draws Cymru. Yn ogystal, mae menywod yn Abertawe yn cyfrif am 73% o’r gyflogaeth ran-amser yn Abertawe.

I roi sylw i’r heriau hyn yn y farchnad lafur yn Abertawe, bydd Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol yn canolbwyntio ar bedwar prif faes:

  • Helpu oedolion (25 oed a hŷn) sy’n ddi-waith yn y tymor byr i gael hyd i waith
  • Helpu pobl ifanc ddi-waith (16-24 oed) sy’n barod i weithio i gael hyd i waith
  • Helpu pobl mewn cyflogaeth lefel isel neu ansicr i gadw gwaith a symud ymlaen yn eu gwaith
  • Helpu menywod mewn cyflogaeth sgiliau isel / â thâl isel i symud ymlaen yn eu gwaith.

Arweinir y rhaglen gan y Rheolwr Partneriaethau a Rhaglenni Cyflogadwyedd, Cath Jenkins. Mae Cath yn gyn-Dirprwy Gyfarwyddwr Cyflogadwyedd a Chyllid UE o fewn Llywodraeth Cymru ac mae ganddi gyfoeth o brofiad ym maes cymorth cyflogaeth a bydd yn gyfrifol am weithredu strategaeth y Coleg ar gyflogadwyedd.

Yn siarad cyn y lansiad, dywedodd Cath: “Dwi’n siarad ar ran y tîm cyfan wrth ddweud pa mor gyffrous ydyn ni i roi’r rhaglen newydd arloesol hon ar waith. Dyn ni’n ymrwymedig i gefnogi cynifer o bobl ag y gallwn ni yn Abertawe i gael a chadw gwaith a symud ymlaen, a sicrhau bod gan gyflogwyr y gweithlu deinamig sydd ei angen arnyn nhw nawr ac yn y dyfodol.

“Disgwylir i’r rhaglen ymgysylltu â thua 1,800 o unigolion a 200 o fusnesau dros y tair blynedd nesaf, a dyn ni eisoes wedi cyflogi 19 o staff er mwyn cyrraedd y targed hwn. Mae’r rhain yn cynnwys Ymgynghorwyr Gweithlu, Cydlynwyr Prosiect, Hyfforddwyr Gyrfa, a mwy.

“Mae pob aelod o’r tîm Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol yn ymrwymedig i greu gyrfaoedd llwyddiannus i bawb, a dyn ni’n gobeithio ysbrydoli pobl a busnesau Abertawe i wireddu eu potensial gwaith go iawn dros y blynyddoedd nesaf wrth i ni barhau i ehangu a datblygu’r rhaglen newydd wych hon.”

"Dwi wrth fy modd ein bod ni’n gallu darparu’r rhaglen o’n swyddfeydd newydd yn Ffordd y Brenin,” ychwanegodd Pennaeth Coleg Gŵyr Abertawe, Mark Jones. “Gobeithio y bydd hyn yn cael effaith gadarnhaol iawn ar bobl sy’n byw ar draws cymunedau Abertawe, dyma flaenoriaeth allweddol i’r Coleg. Dwi hefyd yn edrych ymlaen at Chwefror 2018, pan fyddwn ni’n adleoli’r rhaglen hon i’n Canolfan Cyflogaeth sydd hefyd wedi’i lleoli yn Ffordd y Brenin yng nghanol y ddinas."

Mae Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol ar hyn o bryd wedi’i lleoli mewn swyddfeydd dros dro yn Ffordd y Brenin, ond bydd y rhaglen yn symud i swyddfeydd pwrpasol – hefyd yn Ffordd y Brenin – yn gynnar yn 2018. I gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut i gymryd rhan, ewch i wefan Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol yn gwellswyddigwelldyfodol.cymru neu ddilyn y rhaglen ar y cyfryngau cymdeithasol.

Twitter: @SwanseaBJBF

Facebook: Better Jobs, Better Futures – Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol

Instagram: SwanseaBJBF

Linked in: Better Jobs, Better Futures – Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol

Tags: