Skip to main content
Gwobrau Blynyddol Myfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe 2019

Gwobrau Blynyddol Myfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe 2019

Mae ein myfyrwyr rhagorol wedi cael eu hanrhydeddu unwaith eto, yn seremoni Gwobrau Blynyddol Myfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe 2019.

Cynhaliwyd y seremoni yn Stadiwm Liberty, gyda’r derbynwyr yn cynrychioli pob agwedd ar fywyd coleg o gyrsiau Safon Uwch a galwedigaethol amser llawn i brentisiaid, dysgwyr AU a chleientiaid o raglenni cymorth cyflogadwyedd y Coleg.

Roedd cyflwynydd BBC Wales Ross Harries yn llywyddu’r noson, a chafodd myfyrwyr eu hanrhydeddu am eu llwyddiannau academaidd a phersonol. Yn ymuno ag ef roedd y siaradwr gwadd Elin Manahan Thomas, cyn-fyfyriwr o Goleg Gŵyr Abertawe sydd wedi cael ei galw yn ‘un o’r sopranos mwyaf amryddawn o’i chenhedlaeth’.

 

“Mae Coleg Gŵyr Abertawe bob amser wedi cael un o’r proffiliau gorau ymhlith unrhyw sefydliad addysg,” dywedodd y Pennaeth Mark Jones. “Cyflawnwyd hyn i gyd o ganlyniad i ymrwymiad ac ymroddiad rhagorol ein myfyrwyr - pob un o’r 13,000 ohonynt bob blwyddyn - a’n staff, ac mae’r achlysur heno yn dathlu’r llwyddiant hwnnw, wrth i ni dalu teyrnged i’r goreuon.

“I’r holl fyfyrwyr hynny sydd wedi derbyn gwobrau eleni, hoffwn estyn fy llongyfarchiadau personol ond hoffwn ddiolch i chi hefyd am fod yn fodelau rôl y gall myfyrwyr eraill, fydd yn eich dilyn, ddysgu a chael budd ohonynt.” 

Rhestr lawn Myfyrwyr y Flwyddyn 2019:

Y Celfyddydau Creadigol

Morgan Summers

Y Celfyddydau Gweledol

Kristy Morgan

ASO / ESOL

Jeymi Pena

Y Dyniaethau / Ieithoedd

Lisa Lucini

Iechyd / Gofal Cymdeithasol

Daniel Jones

Busnes

Cameron Appleby 

Gwallt / Harddwch

Megan Sadler

Lletygarwch / Teithio

Katarzyna Owczarek 

Sgiliau Byw’n Annibynnol

Scott Williams

Chwaraeon / Gwasanaethau Cyhoeddus

Jordan Delaney

Peirianneg

Katie Barnes

Adeiladu / Plymwaith

Aaron Lockhart

Mathemateg / Gwyddoniaeth / Gwyddor Gymdeithasol

Luke Marques

Technoleg

Evelyn Hugtenburg 

Hyfforddiant GCS

Donna Wright

Yr Iaith Gymraeg

Siobhan Arkwright

Rhyngwladol

Ranyoung (Bella) Kim

Addysg Uwch

Chloe Harries

Prentis

Iestyn Thomas

Llwyddiant Chwaraeon

Lauren Francis

Partner Cyflogwr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Mynediad

Harvey Bowden

Dilyniant ac Ymrwymiad

Taneka Hyatt 

Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol

Hannah Powell

Myfyriwr Ysbrydoledig y Flwyddyn

Siobhan Arkwright

Roedd y digwyddiad yn arddangosiad ymarferol ar gyfer talentau myfyrwyr hefyd, ac roedd myfyrwyr y Celfyddydau Perfformio a Cholur Ffotograffig wedi darparu’r adloniant. Roedd myfyrwyr Lefel 3 Theatr Dechnegol hefyd wedi darparu’r set, y goleuadau a’r sain yn y digwyddiad.

DIWEDD

Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn ddiolchgar iawn i noddwyr Gwobrau Blynyddol Myfyrwyr 2019:
AB Glass; Andrew Evans; Bevan Buckland LLP; Blake Morgan; City & Guilds; Partneriaeth Sgiliau Coleg Prifysgol, Prifysgol Abertawe; ComputerAid; Day’s Motor Group; First Cymru; Academi Iechyd a Lles Prifysgol Abertawe; Hengoed Care; Mark Jones; Amgueddfa Genedlaethol y Glannau; RW Learning; South Wales Transport; Tata Steel; The Wave; Track Training; Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant; Vibe Video Production; Vortex IoT; WalesOnline; Zenith Print Group

Lluniau: Peter Price Media