Skip to main content
Staff gafodd eu cydnabod yn y Gwobrau Gwasanaeth Hir

Staff gafodd eu cydnabod yn y Gwobrau Gwasanaeth Hir

Cafodd dros 100 o aelodau staff o Goleg Gŵyr Abertawe eu gwahodd i ddathliad arbennig yn Stadiwm Liberty.

Sefydlwyd y Gwobrau Gwasanaeth Hir cyntaf erioed i gydnabod a diolch i'r aelodau staff hynny sydd wedi bod yn gweithio yn y Coleg am fwy nag 20 mlynedd.

Derbyniodd darlithwyr, rheolwyr a staff cymorth busnes o bob adran o'r sefydliad fagiau nwyddau wedi'u personoli cyn cael eu gwahodd i fwynhau te hufen Nadoligaidd.

Adloniant wedi'i ddarparu gan y myfyriwr rhyngwladol Gieun Cho a chôr y Coleg, dan arweiniad yr Arweinydd Cwricwlwm ar gyfer Cerddoriaeth Jon Rogers.

Roedd y rhai a fu'n gweithio i'r Coleg am fwy na 30 blynedd yn cynnwys Arweinydd Cwricwlwm Steve Williams, Uwch Ofalwr Mike Jones, Darlithydd Stephen Williams, Rheolwr Cyllid Rhanbarthol SFI a Swyddog Prosiect Nigel Richards, Deon Cyfadran Ruth Prosser, Tiwtor Arweiniol Rhydgrawnt/AU+ Felicity Padley, Darlithydd Nikki Roderick, Swyddog Arholiadau Carol Evans a'r Arweinydd Cwricwlwm John Bowen.

Rhoddwyd y gymeradwyaeth fwyaf i Mike Wildin a ddechreuodd weithio i'r Coleg yn 1967 ac sy'n Dechnegydd Peirianneg ar gampws Gorseinon erbyn hyn.

Roedd rhai themâu cyffredin gan y staff a gafodd eu cyfweld ar gyfer y digwyddiad - sef eu bod nhw'n caru addysgu, eu bod yn dymuno ysbrydoli pobl ifanc a pha mor gwerth chweil yw hi i weithio o fewn sector deinamig sy'n newid yn gyson.

"Roedden ni i gyd yn teimlo ei bod hi'n bwysig iawn cydnabod ymrwymiad a theyrngarwch yr aelodau staff hynny sydd wedi bod yn gweithio mor galed i'r Coleg am gyhyd," dywedodd y Cyfarwyddwr AD Sarah King. “Mae'n anhygoel faint o bobl a ymunodd â'n colegau gwaddol yn Gorseinon ac Abertawe 'nôl yn y dydd' sydd dal i fod gyda ni - sy'n dangos i mi eu bod nhw'n dal yn mwynhau gweithio yma!  Mae'r aelodau staff hyn wedi mentora a chefnogi cenedlaethau o fyfyrwyr ac roedden ni am roi rhywbeth 'nôl iddyn nhw i ddangos ein gwerthfawrogiad." 

Lluniau: Peter Price Media