Skip to main content
Gwobrau Myfyrwyr Blynyddol Rhithwir Coleg Gŵyr Abertawe 2020

Gwobrau Myfyrwyr Blynyddol Rhithwir Coleg Gŵyr Abertawe 2020

Mae hi wedi bod yn flwyddyn ryfedd i bawb ond mae un peth heb newid – sef disgleirdeb ein dysgwyr a’n cleientiaid.

Ar ôl yr hyn sydd wedi bod yn flwyddyn academaidd anghyffredin a heriol iawn, roedd Coleg Gŵyr Abertawe yn falch iawn o gynnal ei seremoni Gwobrau Myfyrwyr Blynyddol Rhithwir gyntaf.

Cynhaliwyd y Gwobrau Rhithwir ar ffurf fideo ar wefan y Coleg ac roeddent yn cynnwys cyfraniadau gan y cyflwynydd rheolaidd Kev Johns MBE a Chôr Cyfnod Clo y Coleg, a ganodd ddatganiad teimladwy o’r clasur Lean on Me.

Roedd y digwyddiad yn cynnwys 24 categori gwobr ar wahân o bob rhan o ddarpariaeth eang y Coleg gan gynnwys amser llawn, rhan-amser, prentisiaethau, rhaglenni cyflogadwyedd a chyrsiau Addysg Uwch.

“Roedden ni’n benderfynol o ddathlu cyflawniadau ein myfyrwyr yn y ffordd orau y gallen ni eleni,” meddai’r Pennaeth Mark Jones. “Unwaith eto, roedd y straeon a glywson ni yn wirioneddol ysbrydoledig - unigolion sydd wedi gorfod delio â’r amgylchiadau mwyaf heriol i sicrhau llwyddiant.

“Mae llawer o’n henillwyr yn jyglo eu hastudiaethau â bywydau teuluol prysur, swyddi a chyfrifoldebau gofalu ac mae pob un ohonyn nhw yn fodelau rôl rhagorol. Er na allen ni fod gyda’n gilydd eleni, roedden ni’n teimlo ei bod yn bwysig iawn anrhydeddu eu cyflawniadau a dathlu eu doniau, eu dygnwch a’u hymroddiad.”


 
 
 
Dyma holl enillwyr 2020:

 


Myfyriwr y Flwyddyn Addysg Sylfaenol Oedolion/ESOL – John Yates
Gwobr Bernie Wilkes - Myfyriwr y Flwyddyn Gwallt, Harddwch a Holisteg – Hollie Yeates
Myfyriwr y Flwyddyn Lletygarwch, Teithio a Thwristiaeth – Rebecca Jones
Myfyriwr y Flwyddyn Sgiliau Byw’n Annibynnol – Nicholas James
Myfyriwr y Flwyddyn Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus – Wiktoria Rejniak
Myfyriwr y Flwyddyn Y Celfyddydau Gweledol – Chloe Loach
Myfyriwr y Flwyddyn Busnes – Hugh Orgill
Myfyriwr y Flwyddyn Y Celfyddydau Creadigol – Matthew Newcombe
Myfyriwr y Flwyddyn Y Dyniaethau – Megan Phillips
Myfyriwr y Flwyddyn Mathemateg, Gwyddoniaeth a Gwyddor Gymdeithasol – Jason Liu
Myfyriwr y Flwyddyn Technoleg – Karolis Lisauskas
Myfyriwr y Flwyddyn Peirianneg – Mohamad Melhem
Myfyriwr y Flwyddyn Iechyd a Gofal Cymdeithasol – Chloe Lloyd
Myfyriwr y Flwyddyn Plymwaith ac Adeiladu – Bradley Jones
Prentis y Flwyddyn – Linda James
Partner Cyflogwr y Flwyddyn - DVLA
Myfyriwr y Flwyddyn Hyfforddiant GCS – Debbie Xerri
Myfyriwr Rhyngwladol y Flwyddyn – Jiaming Yang
Myfyriwr y Flwyddyn Mynediad – Emily Skyrme
Myfyriwr y Flwyddyn AU – Susan McCormick
Myfyriwr y Flwyddyn Yr Iaith Gymraeg – Tezni Williams
Cleient Cyflogadwyedd y Flwyddyn – Ashleigh King
Rhagorol y Flwyddyn Chwaraeon – Saadia Abubaker
Myfyriwr y Flwyddyn Dilyniant ac Ymroddiad – Iestyn Jenkins

Myfyriwr Ysbrydoledig y Flwyddyn – Mohamad Melhem

***

Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn ddiolchgar i noddwyr Gwobrau Myfyrwyr Blynyddol Rhithwir 2020: AB Glass; Andrew Evans Painting Contractors Ltd; Bevan Buckland LLP; Blake Morgan; City & Guilds; ComputerAid; Day’s Motor Group; First Cymru; Hengoed Care; Mark Jones; Amgueddfa Genedlaethol y Glannau; RW Learning; South Wales Transport; Prifysgol Abertawe; Tata Steel; The Wave; Track Training; Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant; Vibe Video Production; Vortex IoT; WalesOnline; Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol; Zenith Print Group