Skip to main content

Gwybodaeth bwysig ynghylch tywydd garw 18 Chwefror

Fel y byddwch chi’n gwybod, mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd COCH yn ein hardal yfory, dydd Gwener 18 Chwefror.

Ar ôl trafod hyn gyda’n cydweithwyr yn y Cyngor, rydyn ni wedi penderfynu y byddwn ni, ar gyfer yfory, yn symud i ddysgu o bell ym mhob maes, a bydd y campysau ar gau i staff a myfyrwyr.

Felly bydd myfyrwyr yn newid i ddysgu ar-lein drwy Microsoft Teams yn unol â’u hamserlen arferol.