Skip to main content

Gyrfa ym maes cerbydau modur i Demi

Mae cyn-fyfyriwr y Bont, Demi Hendra, wedi symud ymlaen i gwrs galwedigaethol amser llawn mewn Cynnal a Chadw Cerbydau Modur ar gampws Tycoch.

Mae Rhaglen y Bont ar gyfer pobl ifanc 16-19 oed sydd heb benderfynu pa lwybr gyrfa i’w ddilyn yn y dyfodol.

“Mae Demi wir yn mwynhau ei chwrs a gobeithio bydd yn arwain at ddilyniant pellach yn y diwydiant ceir," dywedodd y tiwtor Maria Francis. “Mae Demi yn fyfyrwraig weithgar sydd bob amser yn awyddus i ddysgu sgiliau newydd. Ei huchelgais hi nawr yw cael lle ar gynllun prentisiaeth.”

Roedd Demi wedi pasio Rhaglen y Bont y llynedd gyda’r marciau uchaf. Ychwanegodd: “Mae symud i raglen brif ffrwd yn y coleg wedi rhoi cyfle i mi symud ymlaen yn fy ngyrfa. Dwi’n mwynhau fy nghwrs, yn enwedig elfennau ymarferol y gwaith. Cyn dechrau Rhaglen y Bont doeddwn i ddim yn siŵr beth roeddwn i moyn wneud ac roedd y cwrs wedi cynnig gwahanol gyfleoedd i mi gyda gwahanol bynciau – roedd hyn wedi dal fy niddordeb i achos roedd pob pwnc yn wahanol.”

Mae’r Bont yn rhoi cyfle i fyfyrwyr flasu amrywiaeth o wahanol feysydd pwnc, er mwyn iddynt wneud penderfyniadau cytbwys am eu cam nesaf. Mae’n rhoi’r sgiliau a’r rhinweddau y mae cyflogwyr yn gofyn amdanynt ac mae’n paratoi myfyrwyr yn well ar gyfer byd gwaith.