Skip to main content

Hanesion theatr yn ysbrydoli myfyrwyr newydd

Mae cyn-fyfyriwr o Goleg Gŵyr Abertawe wedi dychwelyd i gampws Llwyn y Bryn i annog a chymell myfyrwyr sydd newydd gychwyn ar eu hanturiaethau mewn addysg bellach.

Cwblhaodd Amy Spencer gwrs Lefel 2 a Lefel 3 mewn Celf a Dylunio cyn symud ymlaen i’r cwrs Diploma Sylfaen mewn Celf a Dylunio – pob un yn Llwyn y Bryn. Mae hi bellach wedi cofrestru ar y cwrs BA (Anrh) Dylunio ar gyfer y Theatr, Ffilm a Pherfformio ym Mhrifysgol y Celfyddydau Creadigol lle mae wedi dylunio amrywiaeth o bropiau – megis pypedau – a gwisgoedd ar gyfer cynhyrchiad o The Tempest. Ei phrosiect presennol yw dylunio naw gwisg unigryw wedi’u hysbrydoli gan ffasiwn y 18fed ganrif ar gyfer cynhyrchiad Ysgolion Theatr Razzamatazz o Beauty and The Beast.

"Roedd Amy wedi sôn am ei phrofiadau gwych yng Ngholeg Gŵyr Abertawe ac faint roedd hi’n caru Llwyn y Bryn o ran yr hyder a’r cymorth a gafodd hi gan y staff a’r sgiliau a enillodd hi," dywedodd y darlithydd Marilyn Jones. "Roedd ein myfyrwyr newydd Lefel 1 Celf Galwedigaethol yn meddwl bod ei brwdfrydedd yn wirioneddol ysbrydoledig ac roedden nhw wedi mwynhau dysgu am y potensial creadigol sydd allan ‘na ar gyfer gyrfa gyffrous ac amrywiol."