Skip to main content

Her i Fyfyrwyr Menter

Mae naw myfyriwr Menter o Goleg Gŵyr Abertawe wedi gwneud cais llwyddiannus i gymryd rhan yn Her ‘Breuddwyd i Fusnes’ Llywodraeth Cymru, her ddwys dros dri diwrnod, fydd yn cael ei chynnal ym mis Tachwedd.

Mae hyn yn dilyn digwyddiad clyweliadau yn ddiweddar ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant lle cafodd y myfyrwyr eu hyfforddi a’u mentora gan Swyddog Menter y coleg Lucy Turtle.

“Gyda chefnogaeth fendigedig ein modelau rôl Syniadau Mawr Adam Curtis a Ben Room, roeddwn i’n gallu rhoi cymorth i’r myfyrwyr drwy’r broses ymgeisio,” dywedodd Lucy. “Roedd hyn yn gyfle gwych iddyn nhw ehangu eu gwybodaeth a datblygu’r sgiliau hanfodol sydd eu hangen i fod yn ‘barod am fusnes’.”

Mae’r myfyrwyr bellach wrthi’n paratoi ar gyfer yr Her ‘Breuddwyd i Fusnes’, fydd yn rhoi cyfleoedd pellach iddyn nhw gynyddu cysylltiadau a chwrdd ag entrepreneuriaid sefydledig o bob galwedigaeth.

“Bydd cyrraedd y cam Breuddwyd yn rhoi modd i’r myfyrwyr gyrchu’r hanfodion busnes i sefydlu, rheoli a thyfu eu busnes – o farchnata a chyllid i gynllunio busnes a chyflogi pobl,” ychwanegodd Lucy. “Byddan nhw’n gallu manteisio ar gymorth a hyfforddiant entrepreneuraidd gan gymuned fusnes sy’n ymrwymedig i helpu pobl ifanc fentrus i lwyddo. Mae’n gyfnod cyffrous iawn!”

Y myfyrwyr – a’u meysydd diddordeb - yw: David Goldsmith (rheoli cerddoriaeth), Ryan Evans, Luke Williams ac Alex Williams (gwefannau ffilmiau), Masuma Begum (dyluniadau Henna) a Scott McLean, Rhian Kivi, Lauren Richards a Samuel Hill (digwyddiadau cymunedol.)

“Hoffwn i ddechrau cwmni rheoli cerddoriaeth,” dywedodd David (yn y llun). “Dw i hefyd yn credu bod y farchnad heb safle cyfryngau cymdeithasol lle gall diddanwyr a gweithwyr proffesiynol gyfathrebu ac adeiladu rhwydweithiau. Roeddwn i wedi mwynhau’r profiad o gael clyweliad yn fawr iawn a dwi eisoes wedi cael adborth uniongyrchol gan entrepreneuriaid ar fy nghynllun busnes. Mae’r tîm Menter yng Ngholeg Gŵyr Abertawe nawr yn mynd i fy helpu i gyrchu’r cymorth busnes fydd ei angen arna i yn y dyfodol.”

Bydd yr Her ‘Breuddwyd i Fusnes’ yn cael ei chynnal yn Neuadd Gregynog ar 13 – 15 Tachwedd.