Myfyrwyr Addysg Uwch yn ymweld ag Efrog Newydd


Diweddarwyd 03/04/2020

Ym mis Chwefror eleni, fe aeth ein myfyrwyr Gradd Sylfaen Rheoli Digwyddiadau a’n myfyrwyr Gradd Sylfaen Datblygu a Rheolaeth Chwaraeon i Efrog Newydd.

Treuliodd y myfyrwyr bedwar diwrnod yn y ddinas, a chawsant gyfle i ymweld â’r Statute of Liberty, Madison Square Garden yn ogystal â gwylio gêm byw o bêl-fasged yng Nghanolfan Barclays.

“Bwriad y trip oedd darparu profiad bythgofiadwy i’n myfyrwyr, gan roi mewnwelediad rhyngwladol iddynt i chwaraeon a rheoli cyfleusterau.” Meddai James Prosser, Arweinydd Cwricwlwm Chwaraeon.

Ychwanega “Cafodd ein myfyrwyr syniad o sut mae lleoliad byd enwog fel Madison Square Garden yn gweithredu a sut mae’r lleoliad aml-ddefnydd yn cael ei reoli.”

Ychwanegodd y myfyriwr Ethan Joce "Uchafbwynt fy nhaith oedd y reid ar y cwch i’r Statue of Liberty, a gweld yr amgylchoedd eiconig. Am brofiad!”

Mae’r trip yn cael ei drefnu bob blwyddyn er mwyn sicrhau bod myfyrwyr yn cael cyfle i fynd ar ryw adeg yn ystod eu cwrs.

Os hoffech wybod rhagor am y cyrsiau hyn a chyrsiau addysg uwch eraill, ewch i https://www.gcs.ac.uk/cy/higher-education

Tags: