Skip to main content

Laura yn newid ei bywyd trwy ddysgu

Mae merch 21 oed o Abertawe sy'n dweud bod dysgu 'wedi achub ei bywyd' wedi ennill gwobr o fri.
Cyflwynwyd Gwobr Addysg Oedolion i Ddysgwyr Ifanc i un o fyfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe, Laura John o Townhill, yn y seremoni Gwobrau Ysbrydoli! yn ddiweddar fel rhan o Wythnos Addysg Oedolion 2015.

Cafodd yr artist dawnus ei chydnabod am weddnewid ei bywyd ar ôl iddi gael dechrau anodd a arweiniodd at hunan-niweidio a chyffuriau.

Cafodd Laura ei rhoi yn nwylo'r gwasanaethu gofal pan oedd hi'n ddwy flwydd oed a threuliodd y rhan fwyaf o'i blynyddoedd cynnar yn symud i fyw gydag un aelod o'r teulu i'r llall. Roedd hi'n triwanta'n gyson o'r ysgol ac yn camymddwyn mewn gwersi. Gadawodd hi'r ysgol pan oedd hi'n 16 oed a rhoddodd y gorau i ddilyn cwrs coleg pan ddechreuodd hi gymryd cyffuriau.

“Roeddwn i wedi bod yn hunan-niweidio ers pan oeddwn i'n 6 oed," meddai. "Trwy gydol fy arddegau roeddwn i mewn lle gwael ac erbyn i mi fod yn 20 oed roeddwn i wedi mynd i mewn i'm hunan a ddim yn gallu gweld unrhyw ffordd allan.”

Awgrymodd aelod o staff lle y bu Laura yn gwirfoddoli ar ôl iddi fethu cael hyd i swydd ei bod yn dechrau cwrs celf ar ôl darganfod y ddawn roedd Laura wedi bod yn ei chuddio trwy gydol ei bywyd.

“Dwi wedi dwlu ar ddarlunio erioed," meddai. "Pan oeddwn i'n ferch fach byddwn i'n tynnu lluniau o flodau a phili-palod fel dihangfa. Dyna'r unig beth oedd yn braf ac yn bert. Byddwn i'n cael diwrnod gwael ac yn mynd i nôl fy mhensiliau a thynnu llun. Doedd neb byth wedi awgrymu ei fod yn rhywbeth y gallwn i ei wneud i ennill bywoliaeth, a doeddwn i byth yn meddwl fy mod i'n dda iawn. Felly pan glywes i rywun yn dweud ei fod yn hoffi fy lluniau, cydiodd rhywbeth ynof fi. Roeddwn i am roi ail gyfle i'm hunan."

Flwyddyn yn ddiweddarach, mae Laura ar fin graddio gyda diploma celf a dylunio o Goleg Gŵyr Abertawe ac yn bwriadu astudio therapi celf yn y brifysgol.

Mae Laura yn arbenigo mewn dylunio tatŵs a darluniau pensil, ac mae hi wedi dysgu ei hun sut i wau. Mae hi am gwblhau ei gradd, astudio ar gyfer gradd meistr a chael swydd fel therapydd celf gyda phobl ifanc.

“Dwi eisiau helpu pobl eraill sydd wedi cael bywyd anodd neu sydd wedi bod trwy rywbeth trawmatig," meddai. "Dyw llawer o blant ddim eisiau siarad am beth maen nhw wedi bod trwyddo - maen nhw'n ei chael hi'n haws i dynnu lluniau fel fi."

Erbyn hyn mae'n astudio'n amser llawn, ond mae Laura wedi gweithio fel tiwtor-fyfyriwr hefyd gyda phlant ysgol, a'u hannog i roi cynnig ar gelf a dylunio ac erbyn hyn mae'n gwirfoddoli fel rhan o Ysgol Gelf Sadwrn y coleg, gan helpu plant ac oedolion agored i niwed yn ei chymuned.

Ar gyfer ei phrosiect blwyddyn olaf, mae'n gorchuddio bloc cyfan o'i choleg â blanced wedi'i gwneud o tua 100 o sgwariau edau, proses o'r enw 'bomio edau'. Mae aelodau o'r Bluebell Club yn Topic House Abertawe, lle mae Laura yn gwirfoddoli, wedi bod yn ei helpu hi i grosio a gwau'r blancedi am y ddeufis diwethaf ar gyfer yr ardddangosyn o'r enw Loop.

“Fel blanced, mae'r bomio edau yn gysurus ac yn gwneud i'r adeilad deimlo ei fod yn cael ei ofalu amdano," dywedodd. ”Fel y gallai therapi a blanced gynnes ei wneud i rywun sydd angen cymorth, neu fel y gallai addysg ei wneud i fyfyriwr sy'n dychwelyd i ddysgu."

“Mae dechrau cwrs coleg wedi fy achub i - roedd wedi achub fy mywyd," ychwanega Laura. "Flwyddyn yn ôl, roeddwn i'n cymryd cyffuriau ac yn hunan-niweidio, doeddwn i ddim am 'nabod neb na helpu unrhyw un, ond nawr dwi ar fy ffordd i fynd i'r brifysgol a gobeithio cael gyrfa yn helpu eraill. Fy nghyngor i unrhyw un yw allwch chi ddim edrych nôl. Dyw'r gorffennol ddim yn gallu newid eich dyfodol."

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg, Julie James. "Mae Wythnos Addysg Oedolion yn rhoi cyfle i bawb ddysgu rhywbeth newydd, boed hynny'n dysgu o gartref, yn y gweithle neu yn eich cymuned leol."

“Mae'r Gwobrau Ysbrydoli! yn cydnabod y bobl sydd wedi cymryd y cam hwnnw, a dylent fod yn esiampl sy'n annog unrhyw un sy'n meddwl naill ai ei fod e'n rhy hwyr neu'n rhy anodd i ddysgu sgil newydd.

“Rydym ni'n gobeithio y bydd Wythnos Addysg Oedolion yn annog oedolion ar draws Cymru i ganfod mwy am eu sgiliau a'u dewisiadau gyrfa drwy fynd i'r digwyddiadau yn eu hardal nhw. Gall oedolion fanteisio ar y Porth Sgiliau hefyd i gael cyngor ac arweiniad gyrfaoedd, os ydynt am wella eu sgiliau a'u cyflogadwyedd neu ddychwelyd i'r gwaith.”

Dywedodd Cerys Furlong, Cyfarwyddwr NIACE Cymru: “Mae Gwobrau Ysbrydoli! yn ein hatgoffa ni o bŵer dysgu ac mae pob stori yn dyst i waith caled y dysgwyr a'r tiwtoriaid. Mae pob enillydd wedi dod mor bell ac wedi dangos gwir benderfyniad ac angerdd dros ddysgu, a dymunwn bob llwyddiant iddynt yn y dyfodol.

“Gall pawb gymryd rhan yn Wythnos Addysg Oedolion, drwy ymuno â digwyddiad am ddim i ddysgwyr yn eu hardal nhw ar unrhyw beth o gymorth cyntaf i ffotograffiaeth ddigidol.”

Mae Wythnos Addysg Oedolion yn rhedeg o Fehefin 3-19 ac yn dathlu dysgu gydol oes, boed hynny'n seiliedig ar waith, fel rhan o gwrs addysg gymunedol, yn y coleg, y brifysgol neu ar-lein. Yn ei 24ain bellach, mae'n ceisio hyrwyddo'r amrywiaeth o gyrsiau sydd ar gael i ddysgwyr sy'n oedolion, o ieithoedd i gyfrifiadura ac o ofal plant i gyllid. Mae’n cael ei threfnu gan NIACE Cymru gyda chymorth Llywodraeth Cymru a Chronfa Gymdeithasol Ewrop.

Mae'r Gwobrau Ysbrydoli!, a noddir gan ColegauCymru, yn cael eu cynnal bob blwyddyn cyn Wythnos Addysg Oedolion, i ddathlu llwyddiant dysgwyr rhagorol yng Nghymru sydd wedi dangos angerdd, ymrwymiad a chymhelliant eithriadol dros ddysgu, yn wyneb amgylchiadau anodd yn aml iawn.

I gael rhagor o wybodaeth am Wythnos Addysg Oedolion, ewch i www.careerswales.com/skillsgateway neu ffoniwch 0800 028 4844 neu dilynwch @skillsgatewaycw

CC: drwy garedigrwydd Golley Slater