Skip to main content

Llwyddiant myfyriwr Arlwyo gyda’r Urdd

Daeth myfyriwr Coginio Proffesiynol o Goleg Gŵyr Abertawe i’r brig yng nghystadleuaeth CogUrdd yr wythnos hon a gynhaliwyd yn Ysgol Gyfun Bryn Tawe.

Enillodd Jacqueline sy’n fyfyriwr Lefel 3 ar gampws Tycoch y wobr gyntaf yn y gystadleuaeth 19-25 oed a bydd yn awr yn cystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yng Nghaerffili ym mis Mai.

Nod y gystadleuaeth oedd creu prif gwrs addas ar gyfer Prif Weithredwr yr Urdd, gan gynnwys o leiaf dau gynhwysyn Cymreig. Pryd o gig oen Cymreig gyda saws mêl a Penderyn oedd creadigaeth Jacqui.

“Mae ei llwyddiant yn adlewyrchu gwaith caled Jacqueline wrth iddi baratoi ar gyfer CogUrdd,” meddai Ioan Lodwig, darlithydd Arlwyo a Lletygarwch yng Ngholeg Gŵyr Abertawe. “Mae’r gystadleuaeth yn annog myfyrwyr i wella eu sgiliau cyflwyno ac mae wedi rhoi profiad gwerthfawr iddyn nhw wrth iddynt ddechrau eu gyrfaoedd yn y diwydiant arlwyo. Hoffwn ddymuno pob lwc i Jacqui yn y rownd derfynol”

Dywedodd Anna Davies, Hyrwyddwr Dwyieithrwydd Coleg Gŵyr Abertawe: “Mae’r llwyddiant yma yn arwydd gwych o’r cyfleon sydd ar gael i fyfyrwyr gyda’r Urdd i gymryd rhan mewn gweithgareddau a chystadlaethau trwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd hyn nid yn unig yn rhoi hwb i hyder Jacqui ond hefyd yn annog mwy o fyfyrwyr i gystadlu.”

Mae’r gystadleuaeth hon wedi hên sefydlu ac yn mynd o nerth i nerth gyda’r categori newydd yma wedi lansio eleni yn arbennig ar gyfer y rhai rhwng 19 a 25.