Skip to main content

Myfyriwr yn ennill gwobr profiad gwaith mewn ysbyty anifeiliaid anwes

Mae’r myfyriwr Safon Uwch Elan Daniels ar fin treulio wythnos yn Ysbyty Anifeiliaid Anwes Abertawe ar ôl ennill cystadleuaeth profiad gwaith genedlaethol.

Mae Elan yn astudio mathemateg, daearyddiaeth, cemeg a bioleg yng Ngholeg Gŵyr Abertawe ac mae hefyd yn rhan o grŵp tiwtorial y gwyddorau meddygol a’r gwyddorau milfeddygol. Cafodd ei dewis fel enillydd ardal Abertawe ar ôl cymryd rhan yng nghystadleuaeth Profiad Gwaith Myfyrwyr Milfeddygol y PDSA.

Bydd yn treulio pob dydd o’i rhaglen profiad gwaith ym mis Gorffennaf gyda gwahanol aelod o staff, o’r milfeddygon a’r nyrsys milfeddygol i’r cynorthwywyr gofal anifeiliaid a’r staff anghlinigol. Drwy wneud hynny, bydd Elan yn cael dealltwriaeth mor eang ag sy’n bosibl o’r gwaith a wneir mewn ysbyty milfeddygol prysur.

“Mae Elan yn fyfyrwraig frwdfrydig iawn ac rydyn ni wrth ein boddau ei bod wedi cael y cyfle ‘ma i dreulio pum diwrnod yn yr haf yn gweithio yn yr ysbyty anifeiliaid anwes,” dywedodd y darlithydd Stewart McConnell, a gefnogodd ei chais drwy ddarparu geirda.

“Y llynedd, roedd y PDSA wedi trin 470,000 o anifeiliaid anwes sâl ac wedi’u hanafu. Fel arall efallai na fyddai eu perchnogion yn gallu fforddio’r gofal milfeddygol iawn” dywedodd y Swyddog Prosiectau Gwirfoddoli Mimi Stanwood. “Fel yr elusen filfeddygol fwyaf yn y DU, rydyn ni’n ymroddedig i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol ym maes milfeddygaeth. Rydyn ni’n credu mai profiad gwaith ymarferol yw’r ffordd orau o gyflawni hyn mewn gwirionedd.”

“Roedden ni’n gobeithio y byddai ein cystadleuaeth profiad gwaith myfyrwyr yn denu’r holl fyfyrwyr gorau ac yn sicr chawson ni mo’n siomi! Roedd safon yr ymgeiswyr wedi rhagori ar ein disgwyliadau. Roedd dewis enillydd yn dipyn o dasg a dweud y lleiaf. Ond, ar ôl darllen cais gwych Elan, roedden ni 100% yn sicr ein bod wedi dewis yr un gorau ac rydyn ni mor falch o gael ymgeisydd penigamp yn gweithio gyda ni yn Ysbyty Anifeiliaid Anwes Abertawe."