Skip to main content

Myfyrwyr GCS Training yn ennill Gwobrau CMI

Mae dau fyfyriwr o GCS Training - braich hyfforddi busnes Coleg Gŵyr Abertawe - wedi ennill y gwobrau uchaf yn y digwyddiad o fri Gwobrau Rhagoriaeth y Sefydliad Rheolaeth Siartredig (CMI) yng Nghaerdydd.

Doedd y beirniaid ddim yn gallu gwahanu llwyddiannau Luke Godrich a Robert Ellis felly cafodd y teitl Myfyriwr Rheolaeth Rhagorol 2015 ei ddyfarnu i'r ddau ohonyn nhw.

Mae Luke, a gafodd ei gynnwys ar y rhestr fer fel Prentis Uwch y Flwyddyn y llynedd, yn gweithio i'r Adran Drafnidiaeth ac mae newydd gwblhau Prentisiaeth Uwch CMI Lefel 5 Diploma mewn Rheolaeth ac Arweinyddiaeth.

Mae Robert hefyd wedi cwblhau CMI Lefel 5 Diploma mewn Rheolaeth ac Arweinyddiaeth ac wedi cymhwyso fel Rheolwr Siartredig eleni.

“Rydym ni mor hapus i Luke a Robert,” meddai'r Rheolwr GCS Training Elaine McCallion. “Mae'r ddau yn jyglo swyddi heriol iawn gydag ymrwymiadau teuluol ac astudio ac wedi dangos y lefel uchaf o ymroddiad. Rwy' mor falch eu bod nhw wedi cael yr anrhydedd wych hon oherwydd mae'r ddau yn ei llawn haeddu.”

Cafodd y fyfyrwraig Sandie Richards, sy'n gweithio i Ddinas a Sir Abertawe ei chydnabod yn y digwyddiad, a hefyd Cydlynydd Braich Cwricwlwm Masnachol GCS Training Denise Brookes-Cooze, gyda'r ddau yn cael ‘Canmoliaeth Uchel' yn y categori Menywod mewn Rheolaeth.

Mae GCS Training yn Ganolfan sefydledig y Sefydliad Rheolaeth Siartredig (CMI), ac ymysg y 20 darparwr gorau yn y DU.  Am ragor o wybodaeth cysylltwch â 01792 284400.

DIWEDD