Skip to main content
Myfyrwyr mathemateg ar eu ffordd i Lundain

Myfyrwyr mathemateg ar eu ffordd i Lundain

Yn ddiweddar, roedd Coleg Gŵyr Abertawe wedi cynnal rhagbrawf Gorllewin Cymru yr Her Fathemateg Uwch.

Roedd tîm y Coleg – Han Xuanyan, Fuhao Song, Jiachen Liang, Xiyu Zhang – wedi ennill y rhagbrawf sy’n golygu eu bod yn cymhwyso ar gyfer y rowndiau terfynol cenedlaethol yn Llundain ym mis Chwefror 2018. Yno, byddan nhw’n cystadlu yn erbyn mwy na 70 o dimau ledled y DU.

Mae’r Coleg wedi cofrestru tîm bob blwyddyn am y ddeuddeng mlynedd ddiwethaf a hwn fydd ein hymweliad cyntaf â’r rowndiau terfynol cenedlaethol – da iawn i’r tîm!

Roedd yr STMC, sef cystadleuaeth sy’n profi sgiliau mathemategol, cyfathrebu a gwaith tîm, wedi gweld ein myfyrwyr yn cystadlu yn erbyn timau o ysgolion a cholegau eraill ar hyd a lled yr ardal.