Skip to main content

Myfyrwyr o Tsieina yn mwynhau profiad y Coleg

Mae ein hadran Ryngwladol wedi croesawu grŵp o fyfyrwyr a staff o Ysgol Ganolog Zhuzhou Rhif 8.

Roedd y myfyrwyr wedi mynychu dosbarthiadau bob bore ac roedden nhw wedi cymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol amrywiol bob prynhawn.

Ar ddiwedd yr ymweliad cynhaliwyd digwyddiad ‘cyfnewid diwylliannol’ rhwng myfyrwyr o Tsieina a myfyrwyr lleol a pherfformiad cerddoriaeth/dawns gan rai o’n carfan bresennol o fyfyrwyr Safon Uwch Rhyngwladol.

Mae’r adran Ryngwladol wedi cael adborth cadarnhaol iawn gan staff Zhuzhou ac rydym yn gobeithio y bydd rhai o’u myfyrwyr yn dychwelyd i astudio pynciau Safon Uwch yn y Coleg yn 2018.