Skip to main content

Myfyrwyr Theatr Dechnegol yn mynd i RADA

Mae dau fyfyriwr Theatr Dechnegol o Goleg Gŵyr Abertawe yn dathlu ar ôl cael eu derbyn gan Academi Frenhinol y Celfyddydau Dramatig.

Bydd Lauren Jones a Johnny Edwards, sydd ar hyn o bryd yn dilyn cwrs Lefel 3 y Celfyddydau Cynhyrchu ar gampws Gorseinon, yn dechrau eu cyrsiau Theatr Dechnegol a Rheolaeth Llwyfan yn Llundain ym mis Medi.

“Dyma’r drydedd flwyddyn yn olynol rydyn ni wedi gweld myfyrwyr yn symud ymlaen o’n cyrsiau Theatr Dechnegol i RADA, efallai y coleg drama mwyaf nodedig yn y DU,” dywedodd y darlithydd Adrian Hocking. “Mae Lauren a Johnny wedi gweithio’n galed dros ben i sicrhau lle yna ac rydyn ni i gyd wrth ein boddau bod eu hymrwymiad wedi talu ar ei ganfed.”