Skip to main content
Myfyrwyr yn cwrdd ag artist eiconig ar ymweliad ag Abertawe

Myfyrwyr yn cwrdd ag artist eiconig ar ymweliad ag Abertawe

Roedd staff a myfyrwyr o Goleg Gŵyr Abertawe wedi bachu ar y cyfle i gwrdd ag artist pop eiconig Syr Peter Blake pan ymwelodd ag Abertawe dros y Sul.

Yr ymweliad cyntaf oedd Oriel Gelf Glynn Vivian i ddathlu lluniau Blake o Under Milk Wood gan Dylan Thomas a lansiad ‘arddangosfa agored’ ar gyfer trigolion Abertawe (oedd yn cynnwys gwaith gan ddarlithydd y Coleg Phil Jacobs).

Nesaf, ymwelodd â Gallerie Simpson (GS Artists) / Canolfan y Celfyddydau Volcano ar gyfer lansiad arddangosfa Creu Portread o Peter Blake, cydweithrediad rhwng Arddangosfa Gelf Cymuned Greadigol 9 i 90, Fusion ac Oriel Elysium.

Yn bresennol roedd myfyrwyr Celf L1 a L2 o Gampws Llwyn y Bryn oedd yn falch o arddangos y portreadau o Syr Peter Blake roedden nhw wedi’u creu mewn amrywiaeth o gyfryngau ac arddulliau.

“Dechreuodd y cyfle gwych hwn pan wnes i e-bostio gwaith rhai o’r myfyrwyr at drefnwyr Cymuned Greadigol 9 i 90 i’w ystyried,” dywedodd y darlithydd Marilyn Jones. “Mae cael eu cynnwys yn y digwyddiad pwysig hwn dros y penwythnos yn gyflawniad mawr i’r myfyrwyr hyn. Roedden nhw wedi dangos ffocws, awydd penderfynol a pharch trwy’r amser. Dim ond yr eisin ar y gacen oedd cwrdd â Syr Peter Blake!”

Roedd hefyd yn gyfle i Marilyn ddal i fyny gyda rhai o gyn-fyfyrwyr Llwyn y Bryn, gan gynnwys un o guraduriaid Oriel Glynn Vivian a ffotograffydd o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, yn ogystal â myfyrwyr celf diweddar sydd erbyn hyn wedi symud ymlaen i gyrsiau gradd.

Mae Peter Blake yn artist cyfoes o Brydain sy’n adnabyddus am ei gysylltiad â’r mudiad Celf Bop lle gweithiodd ochr yn ochr â David Hockney a Richard Hamilton. Mae siŵr o fod yn fwy adnabyddus am greu’r gwaith celf ar gyfer albwm 1967 The Beatles Sgt. Pepper’s Lonely Hearts Club Band.