Skip to main content
Myfyrwyr yn ennill gwobrau Radio Bae Abertawe

Myfyrwyr yn ennill gwobrau Radio Bae Abertawe

Mae dau fyfyriwr o Goleg Gŵyr Abertawe wedi cael llwyddiant yng Ngwobrau Cyflawnwyr Ifanc Radio Bae Abertawe 2018.

Enillodd Patrick Langdon-Dark deitl Seren Chwaraeon Ifanc y Flwyddyn, a noddwyd gan Glwb Golff Celtic Minor.

Tan yn ddiweddar iawn roedd y syrffiwr Patrick yn fyfyriwr ar Gampws Gorseinon y Coleg yn astudio Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Chwaraeon a Gwyddor Ymarfer Corff.

O ennill cystadleuaeth Syrffio Nos Dan 18 y DU 2017 yn y Ceinewydd, i gynrychioli Cymru ar lefel uwch ym Mhencampwriaethau Ewrop yn Norwy, mae wedi bod yn dipyn o flwyddyn i Patrick. Ei lwyddiant mwyaf diweddar oedd cael ei ddewis i gynrychioli Cymru ym Mhencampwriaethau’r Byd yn Huntington Beach, Califfornia, ym mis Hydref.

Enillodd Mariusz Gawarcki deitl Prentis Ifanc y Flwyddyn, a noddwyd gan P.E.S. Fire and Security Systems.

Yn wreiddiol o Wlad Pwyl, dechreuodd Mariusz ei daith ddysgu yn 16 oed ar raglen Llwybrau at Brentisiaeth yn y Coleg. Mae wedi ennill llawer o wobrau yn ystod y blynyddoedd ers hynny, ac mae, erbyn hyn, yn fodel rôl i’w gyfoedion.

Llongyfarchiadau i’r ddau ohonoch – mae’n haeddiannol iawn!