Myfyrwyr yn lleisio eu barn yn Llundain


Diweddarwyd 06/12/2016

Roedd grŵp o fyfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe wedi ymweld â Dau Dŷ’r Senedd yn gynharach y mis hwn fel rhan o’r mudiad Senedd Ieuenctid y DU.

Aeth Scott Russell, myfyriwr Lefel 3 Theatr Dechnegol o gampws Gorseinon, ar y daith gyda Sian Bolton, Jack Scott a Gwen Griffiths.

Mae gan Scott, sy’n byw yng Nghwm Rhondda, ddiddordeb hirdymor mewn gwleidyddiaeth ac mae wedi cymryd rhan mewn mentrau amrywiol y cyngor ieuenctid yn ei ardal leol.

Cyn y digwyddiad, cynhaliwyd pleidlais a gwahoddwyd pobl ifanc i ddewis pa bum pwnc – o blith dewis o ddeg – oedd y mwyaf pwysig iddynt. Yna, cafodd y pynciau a ddewiswyd eu trafod yn Llundain.

Roedd y bobl ifanc wedi dewis cludiant, lleihau’r oedran pleidleisio i 16, mynd i’r afael â hiliaeth a gwahaniaethu ar sail crefydd, cwricwlwm am oes a chyllid GIG.

“Roedd hyn yn brofiad anhygoel i bob un ohonon ni,” dywedodd Scott. “Rydyn ni i gyd yn teimlo’n awyddus iawn i gynnwys pobl ifanc mewn trafodaethau a fydd yn effeithio’n uniongyrchol ar eu bywydau nhw.”

Bydd Senedd Ieuenctid nawr yn canolbwyntio ar yr ymgyrch i ganiatáu pleidleisio yn 16 oed, gyda ffocws eilaidd ar y ‘cwricwlwm am oes’ sy’n addysgu sgiliau ymarferol hanfodol i bobl ifanc fel rheoli cyllid.

DIWEDD

Gallwch wylio’r trafodaethau yma

Mae araith Sian yma

Tags: