Neges gan y Pennaeth, Mark Jones – diwrnodau HMS mis Ionawr


Diweddarwyd 14/12/2021

Wrth i ni nesáu at ddiwedd y tymor, rydyn ni am fachu’r cyfle hwn i fyfyrio a dweud da iawn i chi i gyd am eich holl waith caled eleni. 

Dwi’n siŵr y byddwch chi i gyd yn ymuno â mi ac estyn diolch i’ch timau addysgu a chymorth sydd wedi helpu i sicrhau eich bod wedi gallu parhau i ddysgu. 

Rydyn ni wedi parhau i ddilyn canllawiau Llywodraeth Cymru o ran mesurau diogelwch covid-19, a byddwn ni’n parhau i wneud hynny yn y dyfodol. 

I sicrhau ein bod yn barod i’ch croesawu chi yn ôl ym mis Ionawr, byddwn ni’n defnyddio dydd Mawrth 4 a dydd Mercher 5 Ionawr fel diwrnodau HMS i staff i sicrhau bod y Coleg wedi’i baratoi’n dda ar gyfer eich dychweliad. 

Nadolig llawen i chi – gobeithio cewch chi gyfle i ymlacio. Rydyn ni’n edrych ymlaen at eich croesawu chi yn ôl ar ddydd Iau 6 Ionawr. 

Os bydd unrhyw beth yn newid dros wyliau’r Nadolig, byddwn ni’n cysylltu â chi cyn gynted ag y gallwn. 

Tags: