Skip to main content
Neges gan y Pennaeth Mark Jones ynghylch: Canlyniadau BTEC

Neges gan y Pennaeth Mark Jones ynghylch: Canlyniadau BTEC

Mae llawer o ddryswch ar hyn o bryd mewn perthynas â chanlyniadau arholiadau, ac yn fwyaf diweddar canlyniadau BTEC.

Felly hoffwn fachu ar y cyfle hwn i dawelu meddwl ein holl ddarpar fyfyrwyr bod eu lle yng Ngholeg Gŵyr Abertawe yn ddiogel.

Os ydych chi eisoes wedi gwneud cais i ymuno â ni ym mis Medi, mae’n bwysig iawn eich bod yn cadw’ch apwyntiad cofrestru, beth bynnag fo’ch graddau. Mae gennym dîm o staff ymroddedig wrth gefn i’ch helpu a’ch cynghori ar Raddau a Aseswyd gan y Ganolfan, canlyniadau TGAU a graddau a ragwelir ac ati.

Os nad ydych wedi gwneud cais eto, gallwn eich sicrhau nad yw hi’n rhy hwyr. Rydym yn cofrestru nawr ar gyfer mis Medi felly llenwch ein ffurflen gais ar-lein a byddwn yn cysylltu â chi i drefnu eich cyfweliad.

Rydym yn ymrwymedig i gefnogi ein myfyrwyr trwy’r cyfnod anodd hwn a byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod y cam nesaf ar eu taith addysgol mor ddi-dor â phosibl.