Skip to main content
Novus Gŵyr yn sicrhau contract Dysgu a Sgiliau ar gyfer HMP Parc

Novus Gŵyr yn sicrhau contract Dysgu a Sgiliau ar gyfer HMP Parc

Mae partneriaeth rhwng Novus a Choleg Gŵyr Abertawe wedi derbyn contract gan HMPPS Cymru i gyflwyno rhaglenni Dysgu a Sgiliau yn HMP&YOI Parc ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Menter ar y cyd yw Novus Gŵyr rhwng Novus, un o ddarparwyr rhaglenni addysg, hyfforddiant a chyflogadwyedd mwyaf y DU i garcharorion, a Choleg Gŵyr Abertawe, un o golegau mwyaf Cymru, sy’n gartref i fwy na 12,500 o fyfyrwyr amser llawn a rhan-amser. Mae Novus yn rhan o grŵp LTE, sef grŵp addysg a sgiliau integredig cyntaf o’i fath sy’n gyfrifol am gyflwyno darpariaeth i fwy na 100,000 o ddysgwyr.

Mae gan Goleg Gŵyr Abertawe enw rhagorol am ansawdd ei addysgu a’i ddysgu, ac mae’n gyfrifol am ddarparu ystod eang iawn o gyrsiau academaidd a galwedigaethol. Mae’r Coleg yn cynhyrchu canlyniadau positif ar draws pob maes. Coleg Gŵyr Abertawe yw un o ddarparwyr prentisiaethau mwyaf Cymru ac mae gan Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol, rhaglen gyflogadwyedd llwyddiannus y Coleg, enw gwych am helpu pobl i sicrhau cyflogaeth neu symud ymlaen i gyflogaeth well. Mae’r Coleg hefyd yn gweithio gyda chyflogwyr lleol, rhanbarthol a chenedlaethol ac yn cynnig sgiliau a chymorth ar recriwtio a datblygu gweithlu o’r radd flaenaf.

Dywedodd Peter Cox, Rheolwr Gyfarwyddwr Novus Gŵyr:

“Rydyn ni’n falch iawn o fod yn gweithio gyda Choleg Gŵyr Abertawe i ffurfio’r bartneriaeth hon, yn dilyn llwyddiant ein cydweithrediad gyda Novus Cambria yn CEM Berwyn. Bydd y contract hwn yn rhoi’r cyfle i ni wneud gwahaniaeth gwirioneddol i ddysgwyr HMP&YOI Parc, gan eu harfogi â sgiliau a chymwysterau angenrheidiol fel y gallant ddod o hyd i gyfleoedd cyflogaeth ar ôl iddynt gael eu rhyddhau. Yn y pen draw, bydd hyn yn lleihau’r posibilrwydd o aildroseddu.

“Mae adsefydlu a sgiliau cyflogadwyedd yn rhan hanfodol o’n darpariaeth yn HMP&YOI Parc. Rydyn ni’n gyffrous i weithio’n agos â chyflogwyr lleol a chenedlaethol i gynnig cyfleoedd i’n dysgwyr, ac rydyn ni’n awyddus iawn i glywed gan bartneriaid newydd sydd am weithio gyda ni”

Dywedodd Mark Jones, Cyfarwyddwr Novus Gŵyr a Phennaeth a Phrif Swyddog gweithredol Coleg Gŵyr Abertawe:

“Rydyn ni’n hapus iawn bod Novus Gŵyr wedi sicrhau contract Dysgu a Sgiliau ar gyfer HMP&YOI Parc. Mae amrywiaeth a chyrhaeddiad ein darpariaeth yng Ngholeg Gŵyr Abertawe yn rhywbeth rydw i’n falch iawn ohono ac mae’r contract hwn yn adlewyrchu ein hymrwymiad i ddiwallu’r ystod ehangaf posib o anghenion addysg, hyfforddiant a chyflogaeth ledled de Cymru.

“Trwy weithio â Novus, rydyn ni’n dod ag amrywiaeth eang o brofiad, arloesedd ac arbenigedd mewn addysg a sgiliau ynghyd. Mae’r ddau sefydliad yn ymrwymedig i drawsnewid bywydau dysgwyr Parc trwy ddarparu cyfleoedd dysgu o ansawdd uchel sy’n gwella siawns carcharorion o sicrhau cyflogaeth ystyrlon ar ôl iddynt gael eu rhyddhau.”

***

Partneriaeth yw Novus Gŵyr rhwng Novus, sefydliad sy’n rhan o grŵp LTE, a Choleg Gŵyr Abertawe. Ffurfiwyd y sefydliad yn 2022.

Coleg Gŵyr Abertawe yw un o golegau addysg bellach mwyaf Cymru, ac mae’n denu dros 4,500 o fyfyrwyr amser llawn ac 8,000 o fyfyrwyr rhan-amser ledled Abertawe a’r cyffiniau bob blwyddyn. Mae’r Coleg yn ehangu cyrhaeddiad ei ddarpariaeth yn barhaus trwy gynnig cyrsiau sydd, dros y blynyddoedd diwethaf, wedi cynnwys twf sylweddol mewn prentisiaethau o bob lefel. Mae’r Coleg hefyd wedi ehangu ei ddarpariaeth ar gyfer dysgwyr blwyddyn 10 ac 11 yn ogystal â’r ddarpariaeth AU, ar y cyd ag ysgolion lleol.

Mae gan y Coleg saith lleoliad ledled Abertawe ac mae’n un o gyflogwyr mwyaf y rhanbarth, gyda dros 1,000 a throsiant blynyddol o bron i £50m.

Mae Novus yn darparu gwasanaethau addysg, hyfforddiant a chymorth i oedolion a phobl ifanc yng Nghymru a Lloegr sydd yn y ddalfa. Ers bron i 30 mlynedd rydym wedi bod yn gweithio gyda dynion, menywod a phlant o bob oedran a gallu, yn y gymuned ac yn y ddalfa, i’w helpu i ddewis llwybrau newydd, gan eu darparu â gwasanaethau dysgu, sgiliau a chyfleoedd angenrheidiol fel y gallant sicrhau dyfodol gwell i’w hunain, eu teuluoedd a’u cymunedau. Rydym yn gweithio ar y cyd â phartneriaid cyhoeddus a chymunedol a chyflogwyr i hwyluso’r nodau a rennir, er mwyn helpu unigolion i drawsnewid eu bywydau.

Rydym yn rhan o Grŵp LTE, sef menter gymdeithasol yn y DU sy’n ymrwymedig i wella bywydau a llwyddiant economaidd trwy weithgarwch dysgu a sgiliau. Mae pum sefydliad arbenigol yn rhan o’r grŵp - Coleg Manceinion, UCEN Manceinion, Novus, MOL a - ac maent oll yn meddu ar yr un weledigaeth a gwerthoedd. 

Mae Coleg Gŵyr Abertawe ac LTE yn aelodau o Collab Group.

Ymholiadau’r cyfryngau – cysylltwch ag Allison Lowe 01792 284262 allison.lowe@gcs.ac.uk neu Emma 07730 617869  warde@ltegroup.co.uk