Y diweddaraf am Covid gan y Pennaeth, Mark Jones (dydd Llun 14 Chwefror)


Diweddarwyd 14/02/2022

Yn dilyn y canllawiau diweddaraf gan Brif Weinifog Cymru mewn perthynas ag addysg, ni fydd unrhyw newidiadau i’n mesurau Covid presennol yn y Coleg cyn hanner tymor.

Mae hyn yn golygu bod y mesurau diogelwch canlynol yn dal i fod ar waith:

  • Golchi’ch dwylo, gorchuddio’ch wyneb, gwneud lle
  • Gwisgo gorchuddion wyneb ym mhob man, gan gynnwys ystafelloedd dosbarth, oni bai eich bod wedi’ch eithrio
  • Cadw pellter corfforol
  • Awyru
  • Fe’ch cynghorir i ddefnyddio profion llif unffordd deirgwaith yr wythnos.

Yn amlwg, mae cynigion i ddileu gwisgo gochuddion wyneb mewn ystafelloedd dosbarth o ddydd Llun 28 Chwefror – ond bydd y penderfyniad terfynol ar hyn yn cael ei wneud yn lleol mewn partneriaeth ag Iechyd Cyhoeddus Cymru ac ysgolion lleol.

Felly, yr wythnos nesaf, byddwn ni’n parhau i weithio gyda’n tîm iechyd cyhoeddus lleol a chyfleu ein penderfyniad cyn gynted ag y bo modd.

Diolch am eich cymorth parhaus wrth helpu i leihai trosglwyddo’r feirws.

Mark Jones
Pennaeth

Tags: