Skip to main content
Pobl Abertawe’n sicrhau cyflogaeth well diolch i gynllun cyflogadwyedd y Coleg

Pobl Abertawe’n sicrhau cyflogaeth well diolch i gynllun cyflogadwyedd y Coleg

Mae rhaglen a ddyluniwyd i gryfhau gweithlu Abertawe wedi cefnogi bron 400 o bobl ac 80 o fusnesau ar draws y ddinas yn ystod ei chwe mis cyntaf o wasanaeth.

Sefydlwyd Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol a gyflwynir gan Goleg Gŵyr Abertawe, i wella rhagolygon cyflogaeth cyffredinol Abertawe drwy gyfuniad o gefnogaeth gyflogadwyedd un i un i unigolion a chyngor gweithlu a recriwtio pwrpasol i fusnesau.

Ers dechrau, mae’r tîm Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol wedi cefnogi cleientiaid i gael cyflogaeth â thâl mewn amrywiaeth eang o rolau, o borthorion ceginau i reolwyr prosiect, ar draws amrywiaeth o sectorau gan gynnwys manwerthu, lletygarwch, cynhyrchu a gwasanaethau proffesiynol.

Un o sêr lachar y rhaglen yw Mirleen, sy’n ffoadur o Affganistan a ddaeth i Abertawe yn 2016. Wedi cofrestru ar gwrs ESOL Coleg Gŵyr Abertawe i ddysgu Saesneg, cafodd ei hatgyfeirio at hyfforddwr gyrfa yn Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol i dderbyn cyngor gyrfa a fyddai’n rhoi gwell cyfle iddi ddatblygu’n broffesiynol. Yn dilyn sesiynau gydag ymgynghorydd recriwtio yn Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol er mwyn gwella ei thechnegau cwblhau ffurflen gais a sgiliau cyfweliad, mae Mirleen bellach yn gweithio tuag at brentisiaeth Gweinyddu Busnes gydag asiantaeth rhentu eiddo yn Abertawe. Meddai mai’r gefnogaeth a gafodd gan raglen Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol a helpodd i lwyddo yn hyn:

“Mae gweithio gyda Choleg Gŵyr a’r tîm Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol wedi newid fy mywyd. Cyn symud i’r DU, doeddwn i ddim yn gallu siarad unrhyw Saesneg. Bellach, dw i’n siarad Saesneg yn dda ac mae gen i brentisiaeth mewn gweinyddu busnes a dw i wrth fy modd. Mae fy nheulu’n falch iawn ohonof a dw i’n gallu helpu mwy nawr oherwydd bod gen i fy swydd gyntaf â thâl. Dw i’n teimlo’n ffodus iawn i gael help gan bobl mor gyfeillgar a dw i’n gyffrous am y dyfodol.” 

Meddai Cath Jenkins, sef rheolwr partneriaethau a rhaglenni cyflogadwyedd Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol, am garreg filltir chwe mis cyntaf y rhaglen, “Mae’r tîm cyfan yn hynod falch o’r holl unigolion yr ydym wedi gallu eu helpu yn ystod y chwe mis diwethaf. I Mirleen, mae’r dyfodol yn edrych yn ddisglair iawn, ac mae’r trawsnewid yn ei hagwedd a’i rhagolygon ar gyfer y dyfodol yn ysbrydoliaeth fawr i bobl eraill sy’n wynebu heriau tebyg.”

Mae Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol hefyd yn gweithio’n agos gyda busnesau lleol sydd am ehangu a datblygu eu gweithluoedd. Un busnes o’r fath yw CK’s Foodstores, sy’n adwerthwr bwyd annibynnol â nifer o siopau ar draws Abertawe a’r ardal dde-orllewinol ehangach.

Meddai Mark James, Ymgynghorydd Gweithlu, “Mae Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol yn falch o weithio gyda CK’s Foodstores ar amrywiaeth o weithgareddau cynllunio gweithlu gyda’r nod o wella cyfleoedd i staff presennol a newydd. Mae hyn wedi cynnwys gweithio’n agos gyda’r tîm rheoli, gan ddatblygu dealltwriaeth ddofn o’r busnes er mwyn darparu’r gefnogaeth fwyaf effeithiol.  Eleni, rydym ni eisoes wedi cynorthwyo’r cwmni’n uniongyrchol i gynyddu ymwybyddiaeth o’r cyfleoedd gyrfa sydd ar gael yn y cwmni, ac edrychwn ymlaen at barhau i gefnogi CK’s Foodstores a llawer o fusnesau eraill i greu opsiynau cyflogaeth newydd ac amgen gwych yn y rhanbarth.”

Mae’r tîm Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol yn cynnwys amrywiaeth o arbenigwyr cyflogaeth a gyrfa, gan gynnwys ymgynghorwyr recriwtio a hyfforddwyr gyrfa, oll yn goruchwylio gweithgareddau’r rhaglen sy’n canolbwyntio ar bedwar maes allweddol gyda’r nod o wella rhagolygon cyflogaeth cyffredinol Abertawe:

  • Cefnogi oedolion (25 oed a hŷn) sy’n ddi-waith yn y tymor byr wrth ddod o hyd i waith
  • Cefnogi pobl ifanc (16 i 24 oed) sy’n barod i weithio wrth ddod o hyd i waith
  • Cefnogi pobl mewn cyflogaeth lefel isel/ansicr i gadw cyflogaeth a datblygu ynddi
  • Cefnogi menywod mewn cyflogaeth lefel isel o ran tâl/sgiliau i ddatblygu’n broffesiynol.

Dylai busnesau sydd â diddordeb mewn gweithio gyda Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol i wella recriwtio, cadw staff a dilyniant staff gysylltu â’r tîm Gweithlu a Recriwtio drwy ffonio 01792 284450. Os ydych chi’n unigolyn sy’n chwilio am unrhyw fath o gefnogaeth ar gyfer cyflogaeth, gall ein tîm o Hyfforddwyr Gyrfa eich helpu drwy gyngor a mentora wedi’u teilwra i chi’n bersonol. Cymerwch y cam cyntaf a ffoniwch ni: 01792 284450.

Ceir rhagor o wybodaeth ar ein gwefan yn www.betterjobsbetterfutures.wales neu ar gyfryngau cymdeithasol: Better Jobs, Better Futures – Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol ar Facebook a LinkedIn, a @SwanseaBJBF ar Twitter ac Instagram.

DIWEDD