Skip to main content
Prosiect arbennig y cyfnod clo ar gyfer band jazz y Coleg

Prosiect arbennig y cyfnod clo ar gyfer band jazz y Coleg

Mae aelodau a chyn-aelodau o fand Jazz Abertawe wedi cydweithio ar brosiect arbennig yn ystod y cyfnod hwn o gyfyngiadau symud.

Mae’r prosiect ‘Locked Down Chicken’ yn berfformiad o ‘The Chicken’, cân enwog gan y cerddor Americanaidd, Jaco Pastorius.

“Mae’ ‘di cymryd rhyw fis a hanner i roi’r prosiect at ei gilydd, gyda phawb yn perfformio yn unigol yn eu cartrefi, a dw i’n bles iawn gyda’r canlyniad,” meddai’r darlithydd Simon Prothero. “Mae’r myfyrwyr wedi gweithio’n galed iawn i berfformio a ffilmio eu cyfraniadau - roedd y prosiect yn ddewis gwych, gan ystyried nad oedden ni’n gallu perfformio gyda’n gilydd, wyneb yn wyneb”.