Prosiect gobaith ar gyfer Diwrnod Cofio'r Holocost


Diweddarwyd 01/02/2018

Mae myfyrwyr Lefel 2 Celf a Dylunio o gampws Llwyn y Bryn wedi creu darn ingol o gelf ar gyfer Diwrnod Coffáu'r Holocost.

“Roedden ni am gynnwys geiriau o gasineb yn y darn gyda'r bwriad o'u trawsnewid yn rhywbeth cadarnhaol," dywedodd y darlithydd Marilyn Jones. “Roedden ni wedi ysgrifennu'r geiriau i lawr ar bapur ac yna crychu'r darnau o bapur a'u defnyddio i ffurfio dyluniad logo Diwrnod Coffáu'r Holocost.  Roedd yn weithred hynod bwerus i'r myfyrwyr, gyda ffocws ar feithrin gobaith ar gyfer y dyfodol.”

Roedd y myfyrwyr wedi ysgrifennu cardiau post hefyd at blentyn oedd wedi dianc o'r Almaen - Renie Inow, sy'n 89 oed erbyn hyn - menyw oedd wedi llwyddo i ysgrifennu llythyrau i'w theulu trwy'r Holocost ac sy'n byw ym Mhrydain erbyn hyn. Bydd Renie yn ymateb iddyn nhw i gyd trwy'r 'Prosiect Cardiau Post' a ffurfiodd ran o'r arddangosfa yn Seremoni Goffáu'r DU ar gyfer Diwrnod Coffáu'r Holocost ar 25 Ionawr.

Tags:
art