Skip to main content
Prosiect tirlunio uchelgeisiol yn symud i gyfnod 2

Prosiect tirlunio uchelgeisiol yn symud i gyfnod 2

Mae myfyrwyr tirlunio yng Ngholeg Gŵyr Abertawe wedi bod wrthi’n gorffen gardd goffa arbennig iawn ar Gampws Tycoch.

A diolch i gymorth ariannol parhaus yr elusen amgylcheddol Cadwch Gymru’n Daclus a Llywodraeth Cymru, mae’r dysgwyr nawr yn troi eu sylw at ail brosiect sy’n agos iawn at eu calonnau – gardd synhwyraidd gwell iechyd.

Dywedodd y darlithydd Garddwriaeth a Thirlunio, Paul Bidder:

“Mae gan y myfyrwyr restr hir a heriol iawn o bethau i’w gwneud – sy’n cynnwys adeiladu llwybrau, plannu gwrychoedd cynhenid ac adeiladu pergola / man eistedd.

“Yn ogystal, bydd tŷ gwydr yn cael ei godi a bydd y myfyrwyr yn plannu borderi llysieuol a phlanhigion dringo. Mae’r rhan fwyaf o’r planhigion hyn yn fuddiol i beillwyr ac mae’r ardd wedi cael ei dylunio gyda bioamrywiaeth mewn golwg.

“Mae hwn yn brosiect uchelgeisiol iawn ac mae disgwyl iddo gymryd hyd at bum mlynedd i’w gwblhau, felly mae hyn wir yn ymrwymiad hirdymor i’r Coleg.”

Yn 2021, Coleg Gŵyr Abertawe oedd un o’r colegau cyntaf yn y wlad i elwa ar gynllun Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Cadwch Gymru’n Daclus a welodd y myfyrwyr yn derbyn planhigion, offer a defnyddiau rhad ac am ddim.

Roedd y Coleg yn llwyddiannus yn ei gais am Becyn Grant cychwynnol gan Cadwch Gymru’n Daclus, ac nawr bydd ail Becyn Datblygu yn sicrhau bod cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer tiroedd y campws yn gallu symud yn eu blaen.

***

Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn addysgu sgiliau tirlunio a garddio i bobl ifanc 14-16 oed sy’n dod i’r campws ar gynllun lleoliad o’u hysgolion. Yn ogystal, mae’r Coleg yn cynnig cwrs garddwriaeth a thirlunio Lefel 2 amser llawn sydd ar agor i unrhyw un 16 oed a hŷn.

Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn elusen amgylcheddol gofrestredig sydd yn gweithio i ddiogelu ein hamgylchedd nawr ac i’r dyfodol.