Skip to main content

Recriwtio aelodau newydd i fwrdd y gorfforaeth

Mae Bwrdd Corfforaeth y Coleg, corff o 20 o aelodau, yn gyfrifol am solfedd ariannol y Coleg, ei reolaeth gadarn ac ansawdd y gwasanaeth mae’n ei ddarparu. Mae’r Bwrdd hefyd yn gyfrifol am y defnydd iawn o’r cyllid cyhoeddus a ymddiriedwyd iddo.

Cyfrifoldeb y gorfforaeth yw dod â barn annibynnol i drafod materion strategaeth, perfformiad, adnoddau a safonau ymddygiad.

Yn yr ychydig fisoedd nesaf mae Bwrdd y Gorfforaeth yn disgwyl i nifer y swyddi gwag i aelodau o’r bwrdd godi ac mae’n awyddus i recriwtio pobl sy’n teimlo y gallant wneud cyfraniad i’r Coleg trwy’r Bwrdd.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am rôl aelod o’r bwrdd yng Ngholeg Gŵyr Abertawe a hoffech gael eich ystyried ar gyfer aelodaeth, cysylltwch â Chlerc y Gorfforaeth - Sharon.barron@coleggwyrabertawe.ac.uk