Skip to main content
Rhaglen gyflogadwyedd yn dathlu ail ben-blwydd

Rhaglen gyflogadwyedd yn dathlu ail ben-blwydd

Mae rhaglen gyflogadwyedd Coleg Gŵyr Abertawe – Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol - yn dathlu ail flwyddyn hynod lwyddiannus o ddarpariaeth.

Ers iddi lansio, mae’r rhaglen wedi cefnogi dros 1,500 o unigolion sy’n ceisio cyflogaeth newydd neu well - unigolion fel Dave, a oedd yn dangyflogedig mewn rolau tymhorol ac yn cael trafferth gyda phryder ar ôl i ddigwyddiad bywyd trawmatig ei orfodi i roi’r gorau i’w yrfa flaenorol yn Llundain.

Gan weithio’n agos gyda’r Hyfforddwr Gyrfa Angela, dechreuodd Dave fagu ei hyder a dechrau ei daith yn ôl i fyd gwaith. Roedd Angela wedi helpu Dave i chwilio am waith drwy dargedu swyddi a oedd yn realistig i’w sefyllfa, gan ei helpu i wella ei CV a chynnal nifer o ffug gyfweliadau i gynyddu ei allu i ymdopi o dan bwysau.

Gyda chymorth Angela, roedd Dave wedi gwneud cynnydd yn gyflym a gwnaeth gais am rôl yn sefydliad ymchwil cymdeithasol Abertawe, ORS. Yn y cyfweliad, roedd wedi creu argraff ar y cyflogwr yn syth a chynigiwyd swydd iddo gyda’r tîm cipio data.

Ar ôl bod yn y cwmni bellach ers dros chwe mis, mae Dave yn gwneud yn arbennig o dda ac wedi symud ymlaen i rôl cymorth ymchwil. Mae’n cael lefelau cynyddol o gyfrifoldeb ar amrywiol brosiectau ac mae ei gynnydd yn dyst i’w benderfyniad i ailgychwyn ei daith yrfa ar ôl cyfnod heriol yn ei fywyd.

“Mae’r tîm Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol wedi bod o gymorth mawr i mi,” dywedodd. “Maen nhw’n neilltuo amser i wrando ar stori’ch cefndir a dysgu am eich cryfderau a’ch gwendidau. Maen nhw’n paru’ch sgiliau â swydd ar lefel realistig, yn rhoi cyfarwyddyd i chi ac yn rhoi hwb i’ch hyder. Heb os nac oni bai byddwn yn argymell Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol i unrhyw un sy’n chwilio am waith, yn dychwelyd ar ôl amser i ffwrdd neu’n ystyried newid gyrfa.”

Mae’r rhaglen hefyd wedi helpu Tia a ddaeth i Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol ar ôl gadael coleg gyda chymhwyster Lefel 3 mewn gofal plant a diddordeb angerddol mewn gweithio gyda phlant ifanc. Yn ogystal â’i chymwysterau, roedd gan Tia brofiad personol o ofalu am blant ag anghenion ychwanegol wrth iddi helpu ei mam i edrych ar ôl ei chwiorydd iau, sydd ag awtistiaeth.

Gyda chymorth ei Hyfforddwr Gyrfa Becky, roedd Tia wedi datblygu ei sgiliau ysgrifennu ceisiadau a chyfweld a chael cyllid tuag at gostau cludiant a chyfweliad. Mae hi bellach wedi cael cynnig swydd amser llawn ym Meithrinfa Highgate ac mae’n falch iawn ei bod wedi sicrhau’r swydd roedd hi eisiau erioed.

“Fyddwn i ddim yn y sefyllfa dwi ynddi nawr oni bai am dîm Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol” meddai Tia. “Roedd y cymorth a ges i yn wych ac roedden nhw bob amser yn hynod garedig. Erbyn hyn mae gyda fi fy swydd ddelfrydol a dwi’n methu credu’r peth.”

Mae Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol hefyd wedi helpu dros 230 o fusnesau i ehangu a datblygu eu gweithlu. Yn eu plith mae’r cwmni cyfrifeg blaenllaw, Bevan Buckland LLP.

“Rydyn ni'n mwynhau perthynas gadarnhaol a diddorol iawn gyda Choleg Gŵyr Abertawe, gan gynnal cyfleoedd profiad gwaith a recriwtio unigolion yn uniongyrchol gyda llwyddiant mawr,” dywedodd y Partner Rheoli Alison Vickers. “Mae’r tîm wedi bod yn frwdfrydig iawn o ran helpu pobl i gael lleoliad neu swydd gyda Bevan Buckland LLP.”

“Mae wedi bod yn ail flwyddyn anhygoel o weithredu ar gyfer Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol, gan ragori ar ein holl ddisgwyliadau,” meddai’r Cyfarwyddwr Cyflogadwyedd, Cath Jenkins. “Gyda buddsoddiad diweddar o £6.6m o arian yr UE, a fydd yn ymestyn ac yn ehangu’r rhaglen hyd at 2021, rydym yn falch iawn o allu cefnogi hyd yn oed fwy o bobl yn Abertawe i gael mynediad at gyflogaeth ystyrlon trwy dîm ymroddedig o arbenigwyr yn ein HYb Cyflogaeth yn Ffordd y Brenin. ”

***

Mae Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol yn darparu cyflogaeth a chymorth gyrfa wedi’u teilwra i unigolion di-waith sy’n chwilio am waith, pobl sydd eisoes mewn gwaith sy’n ceisio cyflogaeth well neu fwy diogel, a phobl ifanc sydd mewn perygl o roi’r gorau i addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant.

Gall y rhaglen gynorthwyo busnesau sy’n gobeithio ehangu eu gweithlu hefyd.

I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch 01792 284450 neu dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol.