Skip to main content
Virtual rowing raises money for Kenya

Rhwyfo rhithwir yn codi arian ar gyfer Cenia

Mae darlithydd Coleg Gŵyr Abertawe, Cat Wilkes, yn treulio rhywfaint o’i hamser yn ystod y cyfyngiadau symud yn codi arian ar gyfer Prosiect Addysg Gymunedol Cenia (PAGC).

Nod PAGC, a sefydlwyd yng Ngholeg Gŵyr Abertawe yn 2003, yw cefnogi cymuned Madungu trwy wella mynediad i addysg, sgiliau, incwm a chyflogadwyedd.

Bydd Cat, sy’n addysgu Safon Uwch a TGCh galwedigaethol, yn ymgymryd â ‘rhwyfo rhithwir’ ar draws y Sianel, yn dechrau am 10am ddydd Gwener 1 Mai.

“Mae Ysgol Gynradd Madunga yn dibynnu ar ein rhoddion i gyllido dau athro a rhaglen fwydo amser cinio,” esboniodd Cat. “Dwi wedi bod yn hynod bryderus, yn ystod y cyfyngidau symud presennol a chadw pellter cymdeithasol, y bydd elusennau bach fel ein helusen ni yn mynd yn brin o arian. Gan nad yw ein sianeli codi arian arferol ar gael am y tro, roeddwn i’n ceisio meddwl am ffyrdd eraill o godi arian. Ces i’r syniad wrth wylio Football Focus lle roedd pêl-droedwyr yr Uwch Gynghrair yn herio’i gilydd i bob math o weithgareddau i gadw eu hunain yn heini.”

Felly gwnaeth Cat yr hyn y byddai unrhyw un yn ei wneud (!) ac ailafael yn ei hen beiriant rhwyfo, nad yw wedi’i ddefnyddio ers blynyddoedd, o grombil ei garej. Tra roedd y mwyafrif o bobl yn ymlacio dros y Pasg ac yn mwynhau rhywfaint o orffwys haeddiannol, dechreuodd Cat ei threfn hyfforddi brysur.

Mae hi wedi gwneud cynnydd da hyd yn hyn ac mae’n gobeithio cwblhau’r rhwyfo rhithwir mewn tua phedair awr.

Os hoffech roi arian tuag at yr achos gwych hwn, ewch i’r dudalen Total Giving: https://www.totalgiving.co.uk/mypage/catw 

Os hoffai aelodau staff eraill neu fyfyrwyr gymryd rhan a rhwyfo ar yr un pryd, e-bostiwch ymholiadau@coleggwyrabertawe.ac.uk