Skip to main content
Sblasio ar gyfer Elusen - myfyrwyr yn neidio i'r môr

Sblasio ar gyfer Elusen - myfyrwyr yn neidio i'r môr

Mae grŵp o fyfyrwyr eofn o Goleg Gŵyr Abertawe wedi mentro i mewn i ddŵr fferllyd Bae Caswell i godi arian tuag at elusen Prosiect Addysg Gymunedol Cenia (KCEP).

Mae’r ‘dip walrws’ yn un o nifer o ddigwyddiadau y mae’r myfyrwyr yn ei drefnu i godi ymwybyddiaeth ac arian ar gyfer yr elusen. Y mis diwethaf, roedden nhw hefyd wedi cwblhau taith ddringo galed i gopa’r Wyddfa.

Cafodd KCEP, a arweinir gan fyfyrwyr, ei sefydlu yng Ngholeg Gŵyr Abertawe yn 2003 i gefnogi cymuned Madungu trwy wella mynediad i addysg, sgiliau, incwm a chyflogadwyedd. 

Gellir gwneud rhoddion i https://www.totalgiving.co.uk/charity/kenya-community-education-project

Lluniau: Adrian White