Skip to main content

Sue Poole wedi'i henwi'n Addysgwr Menter y flwyddyn IOEE

Mae Sue Poole o Goleg Gŵyr Abertawe wedi cael ei henwi'n Addysgwr Menter y Flwyddyn IOEE yn dilyn seremoni wobrwyo a gynhaliwyd yn ddiweddar yn Nhŷ'r Arglwyddi.

Cafodd Gwobrau Dathlu Menter eu cynnal gan y Sefydliad Menter ac Entrepreneuriaid (IOEE) a'r Sefydliad Datblygu Menter Busnesau Bach (SFEDI), gan ddwyn ynghyd addysgwyr, entrepreneuriaid a ffigurau allweddol eraill o sector busnesau bach, menter a sgiliau y DU.

Mae gwobr Addysgwr Menter y Flwyddyn IOEE yn cydnabod unigolyn sydd wedi arddangos ymagwedd fentrus at ddatblygu a darparu addysg a sgiliau menter ac entrepreneuraidd, gan ysbrydoli myfyrwyr a'u galluogi i wireddu eu potensial menter. Mae Addysgwr Menter y Flwyddyn IOEE yn rhywun sydd wedi ymrwymo i ddatblygu ei sgiliau ei hun yn barhaus ac sy'n hyrwyddo addysg fenter yn gyffredinol.

Ers 2012, mae Sue wedi rheoli Canolfan Menter Ranbarthol De Cymru, gan ddatblygu pobl ifanc fentrus yn ardal De-orllewin Cymru mewn partneriaeth â dwy brifysgol a phedwar coleg addysg bellach. Yn ei rôl fel Rheolwr Addysg Fenter Coleg Gŵyr Abertawe, mae Sue wedi meithrin sgiliau entrepreneuraidd dros 300 o blant ysgol gynradd a 4,500 o blant ysgol uwchradd, gan ennill llu o wobrau cenedlaethol a rhyngwladol ar hyd y ffordd.

Hi hefyd yw'r grym y tu ôl i Academi Fenter Cymru, y fenter gyntaf o'i fath yn y wlad. Mae'r Academi yn helpu pobl ifanc rhwng 18-30 oed sydd am wella eu sgiliau menter a dechrau eu busnes eu hunain. Dyma rai enghreifftiau yn unig o angerdd ac awydd Sue i ddod ag addysg fenter i bob person ifanc.

"Dwi wrth fy modd i ennill y wobr o fri hon ac roedd bod yn y fath gwmni hyglod yn brofiad gwylaidd", meddai Sue. "Fy nod bob amser yw datblygu sgiliau entrepreneuraidd ein pobl ifanc ar draws De-orllewin Cymru a'u helpu nhw i lwyddo yn y dyfodol."

"Mae dealltwriaeth Sue o anghenion pobl ifanc a'i chred yn eu potensial yn ei gwneud hi'n addysgwr menter sy'n wirioneddol haeddu'r wobr hon", ychwanegodd Leigh Sear, Prif Weithredwr SFEDI Solutions. "Mae Sue yn cael ei chydnabod fel yn un sy'n teimlo'n angerddol iawn am hybu hunan-barch pobl ifanc a rhoi'r sgiliau iddynt fod yn entrepreneuriaid y dyfodol."

Cafodd Dr Susan Laing, Christine Atkinson a Mark Hoyle eu henwebu ar gyfer y wobr hon hefyd.

DIWEDD

Grŵp SFEDI yw Sefydliad Sgiliau Sector cydnabyddedig y Llywodraeth ar gyfer cymorth menter a busnes. Fe'i sefydlwyd yn 1996 a bellach mae'n cael ei adnabod fel ffynhonnell arbenigedd ar sgiliau a gwybodaeth ar gyfer datblygu busnesau bach, canolig a microfusnesau. Mae'r grŵp yn cynnwys SFEDI, Gwobrau SFEDI, SFEDI Solutions a'r Sefydliad Menter ac Entrepreneuriaid (IOEE).

IOEE (www.ioee.co.uk) yw'r sefydliad dysgu cyntaf sydd wedi ymrwymo i ddatblygu a chydnabod sgiliau pobl fentrus. Mae'n cefnogi gweithwyr proffesiynol menter i ddatblygu eu sgiliau a'u gwybodaeth i safon uchel er mwyn gallu darparu cymorth menter o'r radd flaenaf.

Roedd SFEDI a'r Sefydliad Menter ac Entrepreneuriaid (IOEE) wedi cynnal y digwyddiad Dathlu Menter yn Nhŷ'r Arglwyddi ar ddydd Mercher 4 Tachwedd o 12.30pm tan 2.30pm. Mae'r digwyddiad blynyddol yn dwyn ynghyd busnesau bach a chynrychiolwyr o sefydliadau busnes ar draws y DU i ddathlu popeth sy'n wych am fenter a sgiliau mentrus.

I gael rhagor o wybodaeth ffoniwch 0845 467 3218 neu e-bostiwch info@ioee.uk

Datganiad i'r wasg: IOEE
Llun: Peter Medlicott