Skip to main content
Taith lwyddiannus arall ar gyfer yr Adran Ryngwladol

Taith lwyddiannus arall ar gyfer yr Adran Ryngwladol

Mae Kieran Keogh, Rheolwr Rhyngwladol Coleg Gŵyr Abertawe, wedi dychwelyd o daith busnes bythefnos lwyddiannus i Tsieina lle roedd wedi ymweld â chyfanswm o naw dinas wahanol, gan ddechrau yn Hong Kong a gorffen yn Beijing.

Yn ystod y daith, roedd Kieran wedi cwrdd â nifer o gynrychiolwyr colegau, cyfweld â darpar fyfyrwyr, ymweld â phartneriaid addysgol a chynnal trafodaethau â thri buddsoddwr ynghylch campws gyda brand Coleg Gŵyr Abertawe yn Tsieina.

’Mae addysg ryngwladol yn ffynnu yn Tsieina," meddai Kieran. "Mae cyfle go iawn i’r Coleg gynyddu nifer y myfyrwyr rhyngwladol sy’n astudio gyda ni, ond hefyd i ddarparu contractau masnachol proffidiol o ran hyfforddi athrawon a sefydlu campysau dramor.’’