Skip to main content
Dynion yn gwisgo festiau / Men wearing vests

Fest hyfforddiant menopos yn codi ymwybyddiaeth o symptomau

Anogwyd staff a myfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe i boethi ychydig o dan y coler pan gawsant gyfle i wisgo’r Menovest TM

Offeryn hyfforddiant menopos yw’r MenovestTM, a ddatblygwyd gan Over The Bloody Moon, ac a ddyluniwyd yn arbennig gan Thread Design i gynhyrchu’r teimladau y mae rhywun yn eu cael wrth ddioddef ‘pyliau poeth’ oherwydd y menopos.

Ymhlith y gwirfoddolwyr roedd Pennaeth y Coleg Mark Jones, Cyfarwyddwr Sgiliau a Datblygu Busnes Paul Kift, Rheolwr Arlwyo Neil Baker, Rheolwr Maes Dysgu Chris Williams, Rheolwr y Llyfrgell Mark Ludlam, a darlithwyr a myfyrwyr Chwaraeon a Pheirianneg.

“Yn ein hymgais i barhau’n sefydliad ystyriol o’r menopos, roedden ni’n falch iawn o groesawu Amanda Lee o Theramex, cefnogwyr datblygiad y fest, a ddaeth â rhai o’r Menovests gyda nhw i bobl eu gwisgo,” meddai’r Rheolwr Lles Lorraine Evans. “Rydyn ni’n clywed llawer am byliau poeth, ond dydy dynion a phobl ifanc ddim yn eu cael nhw yn aml iawn”.

"Ddylai’r menopos ddim bod yn bwnc tabŵ felly roedd yn wych dod â’r Menovests i’r Coleg a chael y rhyngweithiadau gwerthfawr hyn â phobl nad ydyn nhw efallai wedi profi unrhyw beth fel hyn o’r blaen. Roedd yn sicr yn ‘destun poeth’ o sgwrs a’r gobaith yw y bydd yn arwain at fwy o ddealltwriaeth ac empathi ynghylch symptomau perimenopos a menopos.

“Dywedodd llawer o’n gwirfoddolwyr i’r profiad deimlo ychydig yn anghyfforddus ar ôl ychydig funudau, felly bydd gyda nhw ddealltwriaeth well nawr o sut brofiad yw cael y symptomau hyn wrth wneud eich pethau pob dydd gartref neu yn y gwaith…”

Mae’r Menovest yn offeryn hyfforddi chwyldroadol sydd wedi’i wisgo gan ddarlledwyr, cyflwynwyr, sêr a gwleidyddion

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi ymgymryd ag amrywiaeth o weithgareddau cysylltiedig â’r menopos i staff gan gynnwys Caffis Menopos rheolaidd, cyfleoedd i gwrdd ag arbenigwyr menopos a seminarau ar sut i reoli’r menopos yn y gweithle.