Wythnos Dathlu Niwroamrywiaeth


Diweddarwyd 18/03/2022

Mae staff a myfyrwyr yng Ngholeg Gŵyr Abertawe yn edrych ymlaen at Wythnos Dathlu Niwroamrywiaeth rhwng 21 a 27 Mawrth.

Mae Wythnos Dathlu Niwroamrywiaeth yn fenter fyd-eang sy’n herio stereoteipiau a syniadau anghywir am wahaniaethau niwrolegol.

Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn ymuno â’r dathliad drwy godi ymwybyddiaeth o gyflyrau niwroamrywiol.  
Mewn mannau cymunol ar draws pob campws, bydd stondinau’n cael eu gosod yn arddangos personoliaethau adnabyddus sydd ag ystod o gyflyrau niwroamrywiol a bydd y tîm Niwroamrywiaeth ar gael i gyfeirio myfyrwyr yn ogystal â rhoi adnoddau iddynt. Yn ogystal, bydd bagiau nwyddau a siaradwyr gwadd drwy gydol yr wythnos i ennyn diddordeb yr holl ddysgwyr.

Bydd y digwyddiad hefyd yn cael ei gefnogi yn ystod sesiynau tiwtorial i godi ymwybyddiaeth ac agor trafodaethau am gyflyrau a allai effeithio ar fyfyrwyr neu rywun y maen nhw’n ei adnabod.

Mae gan Goleg Gŵyr Abertawe dîm Niwroamrywiaeth pwrpasol sy’n cefnogi dysgwyr â chyflyrau niwroamrywiol fel anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD), awtistiaeth, dyslecsia, dyscalcwlia, anhwylder cydsymud datblygiadol (DCD)/dyspracsia ac anhwylder iaith datblygiadol (DLD).

Mae Arbenigwr Cymorth Niwroamrywiaeth dynodedig gan bob cyfadran yn y Coleg ac mae Canolfannau Niwroamrywiaeth arbenigol yn darparu man tawel i weithio ynddynt.

“Rydyn ni’n llawn cyffro i fod yn rhan o’r wythnos ‘ma,” dywedodd y Cydlynydd Niwroamrywiaeth, Emma Jones. “Rydyn ni eisiau estyn allan at yr holl ddysgwyr – p’un a oes gyda nhw gyflwr niwroamrywiol eu hunain neu efallai fod gyda nhw ffrindiau ac aelodau o’r teulu sydd â chyflwr – a helpu i godi ymwybyddiaeth o beth mae’n ei olygu i fod yn niwroamrywiol a’r ystod o gymorth y gallwn ni ei gynnig fel Coleg.”

I gael rhagor o wybodaeth e-bostiwch emma.leannejones@gcs.ac.uk