Skip to main content

Y Nadolig yn dod i Lwyn y Bryn!

Mae Myfyrwyr Celf a Dylunio L2 yn Llwyn y Bryn wedi bod yn brysur yn dylunio a phaentio pengwiniaid Nadoligaidd ar gyfer Gwledd y Gaeaf ar y Glannau 2017.

Cafodd y myfyrwyr eu comisiynu gan Ddinas a Sir Abertawe a bydd eu gwaith yn cael eu harddangos ar rinc sglefrio iâ Abertawe o 17 Tachwedd.

Mae noddwyr eleni yn cynnwys Jagger a Woody o Heart Radio, Theatr y Grand Abertawe, Admiral Insurance ac archarwr arbennig y Coleg ei hun Bryn.

“Mae hwn yn gyfle dysgu gwych i'r myfyrwyr oherwydd mae'n rhaid iddyn nhw aml-dasgio a meddwl o ddifrif am drefnu, dylunio, darlunio ac, yn bwysicaf oll, cadw'r cleient yn hapus,” meddai'r darlithydd Marilyn Jones.