Skip to main content
Ngwobrau Addysgu Cenedlaethol Pearson

Addysgwyr ysbrydoledig yn ennill gwobr addysgu genedlaethol am waith trawsnewidiol

Mae tîm addysgu o Goleg Gŵyr Abertawe wedi ennill Gwobr Arian yng nghategori Tîm Addysg Bellach y Flwyddyn yng Ngwobrau Addysgu Cenedlaethol Pearson eleni.

Cafodd tîm e-Chwaraeon y Coleg eu dewis o blith miloedd o enwebeion a byddant nawr yn cael cyfle i ennill y Wobr Aur nodedig iawn, a gaiff ei chyhoeddi mewn seremoni wobrwyo fawreddog yn Llundain ac ar raglen BBC1 The One Show yn nes ymlaen eleni.

Ers i’r Coleg ddechrau addysgu e-Chwaraeon yn 2020, mae’r tîm wedi cefnogi potensial y cymhwyster yn ddiflino gan arddangos y llwybrau gyrfa amrywiol sydd ar gael i fyfyrwyr. Nid yn unig mae eu hymdrechion wedi newid barn am addysg e-Chwaraeon ond mae eu brand Gwdihŵs CGA  wedi codi proffil y Coleg ar raddfa fyd-eang, gan hyrwyddo datblygiad y cymwysterau newydd ymhellach ac ehangu’r llwybr dysgu i lefel gradd sylfaen.

Mae’r tîm yn gyfrifol am addysgu cymwysterau BTEC Lefel 2 a Lefel 3 mewn e-Chwaraeon. Fodd bynnag, mae eu heffaith yn ymestyn ymhell tu hwnt i’r ystafell ddosbarth – mae eu hangerdd a’u hymrwymiad wedi arwain at ddatblygiadau sylweddol, gan gynnwys cydweithredu’n agos â’r corff dyfarnu i wella ac ehangu darpariaeth, a’r Coleg yw un o’r rhai cyntaf i lansio cymhwyster Diploma Estynedig Pearson mewn e-Chwaraeon.

Maen nhw hefyd wedi sefydlu cysylltiadau cryf â byd diwydiant, gan gydweithredu â sefydliadau megis Williams, Formula 1 a Dallas Fuel er mwyn rhoi profiadau gwerthfawr o’r byd go iawn a chyfleoedd cyflogaeth i’r myfyrwyr.

Yn y cyfamser, mae Gwdihŵs CGA wedi cael eu cydnabod yn rhyngwladol, gan ennill Pencampwriaeth e-Chwaraeon Prydain, twrnamaint US Cardinal Open a Phencampwriaeth e-Chwaraeon BETT – anrhydeddau uchel eu parch sy’n tanlinellu rhagoriaeth mewn gemio cystadleuol, hyfforddi, ac addysg e-Chwaraeon.

Y tîm e-Chwaraeon yw un o’r 93 o athrawon, darlithwyr, arweinwyr, staff cymorth a sefydliadau haeddiannol a gydnabuwyd fel enillwyr Arian yn y seremoni wobrwyo eleni am yr effaith barhaol y maen nhw’n ei chael ar siapio bywydau pobl ifanc.

Ac nid dyna ddiwedd y dathliadau i Goleg Gŵyr Abertawe, gan fod Jon Parker, darlithydd y Cyfryngau Creadigol, hefyd wedi cael ei anrhydeddu â gwobr Efydd yng nghategori Defnydd Trawsnewidiol o Dechnoleg Ddigidol.

Mae Jon wedi ailddiffinio beth yw arloesi, gan ddefnyddio technoleg fel porth i gynhwysiant, creadigrwydd, a dysgu ystyrlon. Yr hyn sy’n gwneud Jon yn wahanol yw ei allu i roi egni a grym i staff a myfyrwyr, a’i gred gadarn y dylai offer digidol wella bywydau. Mewn un flwyddyn yn unig, darparodd 74 sesiwn hyfforddi fel Mentor Cymheiriaid Digidol ac mae ei Brosiect Chwilfrydedd wedi rhoi effaith byd go-iawn i fyfyrwyr trwy ddefnyddio dronau, argraffu 3D, a Realiti Rhithwir. Mae ei fenter ryngwladol Realiti Rhithwir mewn gofal dementia, a ganmolwyd fel ‘chwyldroadol’, yn profi bod technoleg yn gallu bod yn bwerus ac yn drugarog.

Daw’r cyhoeddiadau yn dilyn teyrngedau gan enwogion, myfyrwyr ac ysgolion ledled y DU wrth iddynt ddiolch i bawb sy’n gweithio ym myd addysg i nodi Diwrnod Cenedlaethol Diolch i Athrawon.

Yn dathlu’r gymuned addysg gyfan, mae Diwrnod Cenedlaethol Diolch i Athrawon a Gwobrau Addysgu Cenedlaethol Pearson yn cael eu rhedeg gan yr Ymddiriedolaeth Gwobrau Addysgu, elusen annibynnol a sefydlwyd dros 25 mlynedd yn ôl i ddathlu effaith drawsnewidiol addysg, gan daflu goleuni ar y rolau allweddol y mae athrawon, staff cymorth, colegau, ysgolion ac addysgwyr blynyddoedd cynnar yn eu chwarae wrth ysbrydoli pobl ifanc o ddydd i ddydd.

“Mae ein tîm e-Chwaraeon wedi trawsnewid barn am y pwnc, gan ddarparu cwricwlwm rhagorol yn ogystal â sicrhau cydnabyddiaeth fyd-eang am eu brand Gwdihŵs CGA,” meddai’r Pennaeth Kelly Fountain. “Mae eu dulliau addysgu arloesol, partneriaethau cryf â diwydiant a’u hymrwymiad i lwyddiant myfyrwyr wedi rhoi cyfleoedd gyrfa digyffelyb yn y diwydiant i’r myfyrwyr.

“Mae llwyddiant Jon yn ymwneud â mwy na disgleirdeb technegol - mae’n ymwneud â haelioni, gweledigaeth a’r gred fod pawb yn haeddu mynediad at offer dysgu digidol. Nid yn unig mae’n tanio arloesedd, mae’n ei gynnal hefyd.

“Mae Coleg Gŵyr Abertawe wrth eu bodd o nodi Diwrnod Diolch i Athrawon. Rydyn ni’n hynod falch o’n henillwyr gwobrau Pearson 2025, ac yn wir pob un o’n staff addysgu a chymorth gwych, sy’n helpu i drawsnewid bywydau bob dydd.”

Dywedodd Lynne Neagle, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn Llywodraeth Cymru: “Unwaith eto mae ein gweithlu talentog wedi cael eu cydnabod am eu gwaith caled a’u hymroddiad, gyda’r enillwyr Arian yn cynrychioli’r gweithlu addysgu o’r blynyddoedd cynnar i addysg bellach. Llongyfarchiadau i bawb ac rwy’n dymuno pob lwc i chi ar gyfer y gwobrau Aur yn ddiweddarach eleni.”

Dywedodd Meddai Michael Morpurgo, awdur, cyn Fardd Plant a Llywydd Ymddiriedolaeth y Gwobrau Addysgu: “Mae ymroddiad ac effaith y rhai sy’n ymwneud ag addysgu pobl ifanc yn wirioneddol ryfeddol. Mae eu dylanwad yn ymestyn ymhell tu hwnt i’r ystafell ddosbarth - gan gynnig anogaeth, ysbrydoliaeth, a chefnogaeth ddiwyro sy’n gallu siapio bywydau am flynyddoedd i ddod. Dyna pam mae Diwrnod Cenedlaethol Diolch i Athrawon yn gyfle pwysig i ni stopio a dathlu popeth maen nhw’n ei wneud. Dwi hefyd yn falch iawn o allu llongyfarch enillwyr y wobr Arian eleni. Mae eich angerdd a’ch ymrwymiad i siapio’r genhedlaeth nesaf yn rhyfeddol. Diolch am y gwahaniaeth rydych chi’n ei wneud bob dydd."

Dywedodd Sharon Hague, Prif Swyddog Gweithredol Pearson UK: “Bob dydd, mae addysgwyr ledled y DU yn gwneud mwy na’r disgwyl i ysbrydoli, cynorthwyo a siapio cenedlaethau’r dyfodol. Heddiw, rydyn ni’n falch o gydnabod y rhai sy’n cael effaith anhygoel. Mae ein henillwyr y wobr Arian yn cynrychioli goreuon y proffesiwn, ac rydyn ni wrth ein bodd o ddathlu eu hymroddiad a’u cyflawniadau. Llongyfarchiadau i holl enillwyr y wobr Arian eleni!”

Dywedodd yr Ysgrifennydd Addysg, Bridget Phillipson: "Ar Ddiwrnod Cenedlaethol Diolch i Athrawon, hoffwn i ddathlu’r gweithwyr proffesiynol hynod sy’n asgwrn cefn i’n system addysg. Mae athrawon rhyfeddol yn gwneud byd o wahaniaeth i addysg plentyn. Dwi wedi cael profiad uniongyrchol o sut mae athro gwych yn gallu gwneud byd o wahaniaeth. Nid yn unig mae athrawon yn cyflwyno gwersi - maen nhw’n trawsnewid bywydau, yn ysbrydoli chwilfrydedd, ac yn rhoi’r hyder sydd ei angen ar ein plant er mwyn llwyddo. Rydyn ni’n ddiolchgar tu hwnt i’n hathrawon am yr ymrwymiad anhygoel hwn i ddyfodol ein gwlad."