Yn ddiweddar, cafodd myfyrwyr o amrywiaeth o gyrsiau gan gynnwys amgylchedd adeiledig, daearyddiaeth a daeareg eu gwahodd i anerchiad ar Ddyfodol Carbon Sero Net (CSN) ar Gampws Gorseinon, Coleg Gŵyr Abertawe.
Dan arweiniad Pennaeth Cynaliadwyedd McCann and Partners, Virginia Clement, fe wnaeth yr anerchiad archwilio beth mae CSN yn ei olygu yn ymarferol. Yn ogystal, fe wnaeth y sesiwn roi sylw i’r ddwy brif elfen o CSN (carbon gweithredol a charbon ymgorfforedig) ac amlinellu’r nodau allweddol sy’n llywio’r trawsnewidiad i amgylchedd adeiledig carbon-isel.
“Roedden ni wrth ein boddau o groesawu Virginia i’r Coleg i gyflwyno’r sesiwn werthfawr hon i’n dysgwyr sydd â diddordeb mewn dylunio cynaliadwy, adeiladu a dyfodol datblygiad carbon-isel,” meddai’r Pennaeth, Paul Kift.
“Roedd yr anerchiad yn arbennig o amserol oherwydd eleni byddwn ni’n agor yn swyddogol ein hailddatblygiad gwerth £20.6m ar Gampws Gorseinon, sy’n cael ei gefnogi gan Raglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru.”
“Mae’r prosiect hwn yn adlewyrchu ymrwymiad parhaus y Coleg i fuddsoddi yn sylweddol yn y dyfodol, gan wella profiad y dysgwr a chefnogi twf cynaliadwy y Coleg trwy gyfleusterau modern, ysbrydoledig a seilwaith clyfrach ar y campws.”
Mae gan Virginia 19 blynedd o brofiad ym maes ynni a rheoli carbon ledled y DU ac mae wedi gweithio ar nifer o brosiectau proffil-uchel megis Campws Cymunedol y Tyllgoed yng Nghaerdydd ac Ysgol Gyfun Caerllion yng Nghasnewydd.
Fe gododd hi gwr y llen ar ei gyrfa wych i’r myfyrwyr, gan gynnwys astudio BEng (Anrh) mewn Peirianneg Sifil yng Nghaerfaddon, a Doethuriaeth Peirianneg (EngD) yn Abertawe / Gates Foundation, gweithio fel asesydd BREEAM, a manylu ar sut y daeth i fod yn rhan o brosiect ailddatblygu Gorseinon.
“Ar ôl yr anerchiad, dwi’n gobeithio y bydd myfyrwyr yn teimlo’n hyderus wrth egluro’r cysyniad o CSN a gwahaniaethu rhwng y ddwy brif elfen yng nghyd-destun yr amgylchedd adeiledig,” meddai Virginia.
“Byddan nhw’n gallu dangos dealltwriaeth o nodau CSN mewn perthynas â lliniaru newid yn yr hinsawdd a thargedau datgarboneiddio rhyngwladol. Yn ogystal, byddan nhw’n gallu gwerthuso strategaethau allweddol ar gyfer lleihau allyriadau carbon, gan gynnwys dulliau dylunio gwneuthuriad yn gyntaf, mesurau effeithlonrwydd ynni, ac integreiddio ffynonellau ynni adnewyddadwy.”