Skip to main content
Ailddatblygiad Campws Gorseinon bellach wedi’i gwblhau cyn agor ym mis Medi

Ailddatblygiad Campws Gorseinon bellach wedi’i gwblhau cyn agor ym mis Medi

Mae Goleg Gŵyr Abertawe yn falch iawn o gyhoeddi bod yr ailddatblygiad mawr ar Gampws Gorseinon bellach wedi’i gwblhau’n ymarferol, ac mae gwelliannau terfynol nawr yn cael eu gwneud cyn croesawu dysgwyr i’r cyfleusterau newydd ym mis Medi.

Wedi’i gyflwyno mewn partneriaeth â Kier a’i gefnogi drwy Raglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru, mae’r buddsoddiad gwerth £20.6 miliwn yn un o’r datblygiadau mwyaf arwyddocaol yn hanes diweddar y Coleg.

Mae’r ailddatblygiad wedi trawsnewid y campws, gan greu amgylchedd dysgu modern, cynhwysol a chynaliadwy wedi’i gynllunio i gefnogi cenedlaethau o ddysgwyr yn y dyfodol.

Mae’r datblygiad yn cynnwys ystafelloedd dosbarth dysgu newydd sbon, ystafelloedd dosbarth TG o’r radd flaenaf, ac atriwm trawiadol, ochr yn ochr â labordai gwyddoniaeth wedi’u hailwampio. 

Ymhlith yr uchafbwyntiau niferus mae mannau cymdeithasol ac astudio pwrpasol i ddysgwyr, a gwell ardaloedd cymorth i ddysgwyr – y cyfan wedi’i gynllunio i fod yn fwy gweladwy, hygyrch a chroesawgar i fyfyrwyr.

Mae’r prosiect hefyd wedi sicrhau manteision cynaliadwyedd sylweddol, gyda’r estyniad newydd wedi’i gynllunio i gyflawni carbon sero net trwy lefelau uchel o inswleiddio, systemau gwresogi trydan ynni-effeithlon a phaneli solar sylweddol ar y to.

Meddai Prif Swyddog Gweithredol Coleg Gŵyr Abertawe, Kelly Fountain:

“Mae cwblhau’r ailddatblygiad hwn yn foment hynod arwyddocaol i’r Coleg ac i’r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu.

“Mae’r buddsoddiad hwn wedi creu campws sy’n adlewyrchu ein huchelgeisiau i ddysgwyr – modern, ysbrydoledig ac yn barod ar gyfer y dyfodol. Mae pob agwedd ar y datblygiad wedi’i gynllunio i wella profiad y dysgwr, gwella hygyrchedd a darparu cyfleusterau rhagorol sy’n cefnogi llwyddiant academaidd a lles personol.

“Rydyn ni’n hynod gyffrous i groesawu dysgwyr drwy’r drysau ym mis Medi ac iddyn nhw brofi’r mannau newydd eithriadol hyn drostyn nhw eu hunain."

Trwy gydol y prosiect, mae’r Coleg wedi gweithio’n agos gyda Kier i sicrhau bod dysgu ac addysgu yn parhau heb fawr o aflonyddwch wrth i’r gwaith ailddatblygu gael ei wneud.

Meddai Ian Rees, cyfarwyddwr rhanbarthol Kier Construction Cymru a Gorllewin Lloegr: 

“Rydyn ni’n falch o fod wedi gweithio ochr yn ochr â Choleg Gŵyr Abertawe i gyflawni’r prosiect trawsnewidiol hwn.

“Mae’r gwaith ailddatblygu wedi creu amgylchedd dysgu cynaliadwy o ansawdd uchel a fydd yn fuddiol i ddysgwyr, staff a’r gymuned ehangach am flynyddoedd lawer i ddod. 

“Mae wedi bod yn wych gweld y weledigaeth yn dod yn fyw ac rydyn ni’n edrych ymlaen at weld dysgwyr yn mwynhau’r cyfleusterau newydd hyn o fis Medi.”

Wrth i’r paratoadau barhau dros yr wythnosau nesaf, mae staff yn edrych ymlaen at arddangos y campws ar ei newydd wedd a chroesawu dysgwyr newydd a’r rhai sy’n dychwelyd ar gyfer dechrau blwyddyn academaidd 2026/27.

Dywedodd Gweinidog y Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg, Anna Brychan:

“Drwy ein Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy, rydyn ni’n buddsoddi mewn cyfleusterau addysg fodern, cynhwysol a chynaliadwy sy’n cefnogi dysgwyr, staff a chymunedau ledled Cymru. Mae’r ailddatblygiad hwn yn enghraifft ardderchog o sut mae ein buddsoddiad yn helpu i greu amgylcheddau dysgu o ansawdd uchel sy’n ateb anghenion lleol nawr ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol."