Skip to main content
Coleg Gŵyr Abertawe’n dathlu lles staff mewn digwyddiad haf blynyddol

Coleg Gŵyr Abertawe’n dathlu lles staff mewn digwyddiad haf blynyddol

Wrth i flwyddyn academaidd arall ddod i ben, fe gynhaliodd Coleg Gŵyr Abertawe Ddiwrnod Lles Staff blynyddol ar 3 Gorffennaf 2025, lle cafodd dros 300 aelod o staff gyfle i gymryd rhan mewn 40+ o weithgareddau.

Eleni, cafodd staff addysgu a chymorth gyfle i gymryd rhan mewn amrywiaeth eang o ddigwyddiadau er mwyn ymlacio. Dyma rhai enghreifftiau o’r gweithgareddau a gynhaliwyd: dawnsio llinell, iacháu siamanaidd, tylino wrth eistedd, tiwtorial basgedi crog, therapi dŵr oed, ioga podiau poeth a gwaith gof arian.

Yn ogystal, cafodd staff gyfle i dderbyn cyngor arbenigol ar bethau amrywiol gan gynnwys materion cyfreithiol, iechyd dynion, iechyd a ffitrwydd cyffredinol a derbyniwyd manylion am gynllun Beicio i'r Gwaith y Coleg. I gyd-fynd â gweithgareddau'r diwrnod roedd detholiad eang o fwyd stryd maethlon ar gael .

Mae Diwrnod Lles y Coleg yn parhau i fod yn ddigwyddiad blaenllaw yng nghalendr y Coleg, ac mae’n cynnig cyfle gwerthfawr i gydweithwyr a ffrindiau gysylltu â’i gilydd, gan ymlacio a rhoi cynnig ar brofiadau lles newydd yn rhad ac am ddim.

“Braf yw cynnig rhaglen mor eang a diddorol unwaith eto eleni - mae ein Diwrnod Lles yn cynnig rhywbeth at ddant pawb,” dywedodd Sarah King, Dirprwy Bennaeth ar gyfer Pobl a Lles. “Diolch o galon i bawb a drefnodd ac a gymerodd rhan yn y gweithgareddau. Diolch hefyd i’n partneriaid corfforaethol a chymunedol am eu cymorth parhaus, amhrisiadwy.” 

Dywedodd un aelod o staff, “Mae’r diwrnod lles yn ddogwyddiad gwych sy’n caniatáu staff i gymryd rhan mewn nifer o weithgareddau sy’n hybu lles, iechyd meddwl a ffitrwydd. Mae hefyd yn gyfle i gysylltu â staff o bob cwr o’r coleg. Mae’r diwrnod lles yn sicr yn uchafbwynt i mi ac yn un o fy hoff ddiwrnodau yn ystod y flwyddyn academaidd.”

Roedd y digwyddiad yn ffordd o gloriannu blwyddyn ragorol i iechyd a lles Coleg Gŵyr Abertawe.

Mae’r Coleg wedi mynd o nerth i nerth eleni, ac rydym wedi cael ein henwebi ar gyfer nifer o wobrau, gan gynnwys:

•    Menter Menopos y Flwyddyn yng Ngwobrau Hyfforddi Princess Royal a Gwobrau Hyfforddiant Prydain
•    Sector Cyhoeddus y Flwyddyn ar gyfer Iechyd Meddwl a Lles yng Ngwobrau Hyfforddiant Prydain
•    Menter Lles yng Ngwobrau InsideOut
•    Strategaeth Llesiant ac Iechyd Meddwl yng Ngwobrau Proffesiynol Ansawdd

Mae'r gydnabyddiaeth hon yn adlewyrchiad o ymroddiad parhaus Coleg Gŵyr Abertawe i feithrin amgylchedd gwaith cefnogol, cynhwysol ac iach i weithwyr.