Skip to main content
Coleg yn dathlu’r prentisiaid a’r cyflogwyr gorau

Coleg yn dathlu’r prentisiaid a’r cyflogwyr gorau

Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi cynnal seremoni wobrwyo arbennig yn Stadiwm Swansea.com fel rhan o Wythnos Prentisiaethau Cymru 2026.

Roedd y digwyddiad yn anrhydeddu ymrwymiad ac ymroddiad rhagorol prentisiaid y Coleg, staff a chyflogwyr partner o bob cwr o Gymru a Lloegr, ac wrth y llyw roedd y cyflwynydd/darlledwr Ross Harries, sydd wedi bod yn wyneb rygbi Cymru am fwy na degawd.

Siaradwyr gwadd y noson oedd James Owen, Prif Weithredwr Medr, a Jonathan Morris, Rheolwr Partneriaethau Strategol a Materion Allanol yn Tai Tarian.

Mae prentisiaethau yn flaenoriaeth allweddol i lawer o gyflogwyr o ran diwallu’r sgiliau sydd eu hangen i ddatblygu a thyfu eu busnesau, ac rwyf wrth fy modd, yn enwedig yn ystod y blynyddoedd diwethaf, bod y Coleg wedi gallu ymateb i’r galw hwn,” meddai’r Pennaeth, Paul Kift.

Heddiw mae gennym dros 2,500 o brentisiaid ar unrhyw un adeg, ond rwyf hefyd yn falch iawn o adrodd bod ansawdd y ddarpariaeth hefyd wedi cryfhau gyda’n prentisiaid, ein staff a’n rhaglenni yn cael eu cydnabod yng Nghymru yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru a Gwobrau Tiwtoriaid Ysbrydoli, ond hefyd ledled y DU yng Ngwobrau AB y Times Educational Supplement (TES), Gwobrau’r Gynhadledd Prentisiaethau Flynyddol (AAC), a Gwobrau Beacon Cymdeithas y Colegau (AOC).

Ein prentisiaid y flwyddyn 2026 yw:

Prentis y Flwyddyn Cyfrifeg- Alex Hoskin, Castleview Accountancy
Prentis y Flwyddyn Arweinyddiaeth Gweithgarwch, Datblygu Chwaraeon - Sinead Hogan, Ysgol Tŷ Gwyn
Prentis y Flwyddyn Amgylchedd Adeiledig - Leon Lizzi, Cyngor Abertawe
Prentis y Flwyddyn Gweinyddu Busnes - Mikayla Novak, EYST
Prentis y Flwyddyn Gwella Busnes ac Ansawdd - Ross Cotter, Energybuild Ltd
Prentis y Flwyddyn Gofal Plant a Chymorth Addysgol - Katy Campbell, Rocking Horse Day Nursery 
Prentis y Flwyddyn Peirianneg Sifil - Lewis Colborne, RMG Groundworks
Prentis y Flwyddyn Datblygiad Cymunedol Richard Thomas, United Welsh
Prentis y Flwyddyn Adeiladu Sonny Desmond, J Lynch Building
Prentis y Flwyddyn Canolfan Gyswllt Matthew Roberts, TUI
Prentis y Flwyddyn Gwasanaeth Cwsmeriaid - Caitlin Lockett, Robert Price Builders Merchants
Prentis y Flwyddyn Dylunio Dysgu Digidol - Tetiana Bohach, JoJo Maman Bébé
Prentis y Flwyddyn Electroneg Freddy Thompson, GIG
Prentis y Flwyddyn Peirianneg a Cherbydau Modur - Liam Atkins, CJ Motors
Prentis y Flwyddyn Rheoli Cyfleusterau ac Adnoddau - Zoe Payne, Cyngor Abertawe
Prentis y Flwyddyn Gorchuddio Lloriau - Keenan James, Lee James Flooring
Prentis y Flwyddyn Gofal Iechyd - Elizabeth Illing, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
Prentis y Flwyddyn Tai - Ross Williams, Merthyr Valley Homes
Prentis y Flwyddyn Gwybodaeth, Cyngor ac Arweiniad - Daniel Payne-Wilks, TCH Group
Prentis y Flwyddyn TG a Digidol - Elisha Cook, DVLA
Prentis y Flwyddyn Labordy a Gwyddoniaeth Isobel Taylor, Hydratech
Prentis y Flwyddyn Gwasanaethau Cyfreithiol - Ruby Shadrach, JCP Solicitors
Prentis y Flwyddyn Rheoli a Datblygu - Hana Kubiszova, Adept Consulting
Prentis y Flwyddyn Gofal Cymdeithasol - Zoe Thicker, Cyngor Sir Benfro
Prentis y Flwyddyn Gwaith Ieuenctid - Cerian Asplet-Phoenix, Cyngor Sir y Fflint

Pencampwr Cymraeg Gwobr Prentis - Katy Campbell, Rocking Horse Day Nursery
Pencampwr Cymraeg Gwobr Prentisiaeth Cyflogwr - Adra
Pencampwr Cymraeg Gwobr Prentisiaeth Tiwtor/Aseswr - Lowri Williams

Prentis y Flwyddyn Peiriannydd Gwasanaethu a Gosod Cynhyrchion Trydanol, Electronig (Lloegr) – Bradley Ager, Fisher and Paykel
Prentis y Flwyddyn Rheoli Cyfleusterau (Lloegr) – Fathema Sarkar, Marlin

Tiwtor/Aseswr Prentisiaeth y Flwyddyn - Anne Fellowes
Tiwtor/Aseswr Prentisiaeth y Flwyddyn (Lloegr) - Michael Rowe

Cyflogwr Prentisiaeth y Flwyddyn (Lloegr) – St Monica Trust

Cyflogwr Prentisiaeth y Flwyddyn (1-49 o weithwyr) – Meithrinfa Ffalabalam Cyfyngedig
Cyflogwr Prentisiaeth y Flwyddyn (50-249 o weithwyr) – Energybuild Ltd
Cyflogwr Prentisiaeth y Flwyddyn (250+ o weithwyr) – Ecolab
Pencampwr Cyflogwr Prentisiaeth y Flwyddyn – Rachel Healion, Cyngor Abertawe

Prentis Sylfaen y Flwyddyn - Ross Cotter, Energybuild Ltd
Prentis Uwch y Flwyddyn - Hana Kubiszova, Adept Consulting
Prentis y Flwyddyn (Lloegr) - Hamza Imansouren, Fisher & Paykel
Prentis y Flwyddyn - Liam Atkins, CJ Motors

Diolch yn fawr hefyd i Fand Jazz Campws Gorseinon, dan arweiniad Simon Prothero, am ddarparu’r adloniant adeg cyrraedd, a’n tîm Cynhyrchu Theatr a Digwyddiadau Byw, dan arweiniad Adrian Hocking, am eu gwaith gwych ar y set, y goleuadau a’r sain.

Roedd y digwyddiad yn rhan o amrywiaeth eang o weithgareddau a drefnodd y Coleg i ddathlu Wythnos Prentisiaethau Cymru 2026.

Ar 4 Chwefror, fe gynhaliodd y Coleg noson agored arbennig i bobl sydd â diddordeb mewn prentisiaethau. Roedd y digwyddiad yn llwyddiant ysgubol, gyda thros 500 yn dod i sgwrsio â darlithwyr a chyflogwyr.