Skip to main content

Coleg yn ennill Gwobr Seiberddiogelwch y DU

man with award

Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi cael ei gydnabod yng Ngwobrau Diogelwch Seiber NCSC 2025.

Mae'r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSC) yn cefnogi sefydliadau mwyaf hanfodol y DU, yn ogystal â'r sector cyhoeddus ehangach, diwydiant, busnesau bach a chanolig a'r cyhoedd yn gyffredinol.

Enillodd Peter Scott, Arweinydd Sgiliau Digidol ac Arloesi'r Coleg, Gwobr Aur Coleg y Flwyddyn CyberFirst ar ôl mynychu cynhadledd academaidd flynyddol NCSC yn Leeds.

Rhoddwyd y wobr i gydnabod y gwaith rhagorol y mae Coleg Gŵyr Abertawe yn ei wneud i gefnogi a gyrru addysg seiberddiogelwch ymlaen, ac i ddatblygu cyfleoedd addysg ehangach sy'n gysylltiedig â thechnoleg fel llwybrau dysgu ardystiedig Microsoft. 

Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi ymrwymo ers amser maith i ddatblygu sgiliau seiber a digidol y dysgwyr wrth fynd i'r afael â'r bwlch sgiliau digidol mewn diwydiant yn ehangach.

Gan ddefnyddio meddalwedd SudoCyber SudoRange a gweithio ar y cyd â Cyber Wales, mae'r Coleg yn cynnig hyfforddiant seiberddiogelwch datblygedig, sydd wedi arwain at lwyddiant medal Aur mewn gwahanol ddigwyddiadau Cystadleuaeth Sgiliau Cymru.

Mae Coleg Gŵyr Abertawe hefyd wedi partneru â Microsoft a Stable i ardystio 127 o weithwyr proffesiynol Microsoft newydd mewn amrywiol gynhyrchion (Azure, AI Solutions, a Power Platform / Power BI) dros y chwe mis diwethaf, gyda chynlluniau i ganolbwyntio ar seiberddiogelwch a datrysiadau data trwy gydol 2025.

"Rwyf wrth fy modd ein bod wedi cael ein cydnabod fel Coleg Aur CyberFirst y Flwyddyn y DU yng Ngwobrau NCSC," meddai Paul Kift, Is-bennaeth Sgiliau a Phartneriaethau. "Mae'r wobr hon yn dyst i ymroddiad fy nghydweithwyr a chefnogaeth amhrisiadwy ein partneriaid. Hoffwn ddiolch yn ddiffuant i bawb sy'n cyfrannu at ddatblygu'r arfer hanfodol bwysig hwn."

"Mae seiberddiogelwch yn risg fawr i bob sefydliad, gan ei gwneud yn hanfodol arfogi unigolion â'r sgiliau a'r wybodaeth i ddiogelu eu hunain ac eraill. Ers ennill statws Coleg Aur CyberFirst ym mis Ionawr 2024, rydym wedi parhau i ymrwymo i wella ein darpariaeth - cynnal cystadlaethau sgiliau a gweithdai CyberFirst i ddisgyblion ledled Abertawe drwy ein tîm Cyswllt Ysgolion, darparu cyrsiau CyberFirst yn uniongyrchol, a chefnogi dysgwyr i ymgeisio'n llwyddiannus am Gynllun Bwrsariaeth NCSC."

Nesaf mae cyfres o sesiynau hyfforddi Hylendid Seibr sy'n canolbwyntio ar gyflogwyr, a gyflwynir mewn partneriaeth â Chanolfan Arloesi Seiber Cymru ac a gynhelir ym Mhrifysgol Caerdydd yn y Gwanwyn.